Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor oedd cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22. Roedd y rhain yn cynnwys:
- ymchwilio i gwynion a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau;
- ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau;
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion;
- a threfnu Cofrestr Buddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus perthnasol eraill a oedd yn ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog.
Comisiynydd Safonau
Roedd Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad i roi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad. Mae ei ddeiliadaeth fel Comisiynydd Safonau yn mynd o 1 Rhagfyr 2010 tan 30 Tachwedd 2016.
Trawsgridiadau a’r ohebiaeth
Gwaith a gwblhawyd gan y
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:
- Mick Antoniw (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Llyr Gruffydd (22 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Mark Isherwood (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Eluned Parrott (30 Medi 2014 - 6 Ebrill 2016)
- Kirsty Williams (21 Mehefin 2011 - 30 Medi 2014)