Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Adroddiad Gwaddol

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Cynulliad, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Pedwerydd Cynulliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau

Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor oedd cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ymchwilio i gwynion a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau;
  • ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau;
  • sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion;
  • a threfnu Cofrestr Buddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus perthnasol eraill a oedd yn ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog.

Comisiynydd Safonau

Roedd Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad i roi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad. Mae ei ddeiliadaeth fel Comisiynydd Safonau yn mynd o 1 Rhagfyr 2010 tan 30 Tachwedd 2016.

Trawsgridiadau a’r ohebiaeth

 Gwaith a gwblhawyd gan y

 Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

 

Aelodau'r Pwyllgor