Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

B

Tymor

Balot ar gyfer deddfwriaeth a gynigir gan Aelod

O bryd i’w gilydd, bydd y Llywydd yn cynnal balot i ddewis enw Aelod a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod. Rhaid i’r balot gynnwys enwau’r holl Aelodau sydd wedi gwneud cais i gael eu cynnwys neu sydd wedi cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen cyn cynnal balot. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Ysgrifenyddion y Cabinet neu'n Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn y balot. Bydd y canlyniad yn ymddangos ar wefan y Senedd ac yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021

Biliau Arfaethedig Aelodau

Chwilio am y term hwn

Tymor

Balots Deddfwriaethol

Biliau Arfaethedig Aelod

Chwilio am y term hwn

Tymor

Bil

Cyfraith arfaethedig yw Bil. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Senedd Cymru, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau’n aml fel deddfwriaeth sylfaenol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Biliau Aelod

O bryd i’w gilydd, bydd y Llywydd yn cynnal balot i ddewis enw Aelod a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod. Rhaid i’r balot gynnwys enwau’r holl Aelodau sydd wedi gwneud cais i gael eu cynnwys neu sydd wedi cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen cyn cynnal balot. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Ysgrifenyddion y Cabinet neu'n Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn y balot. Bydd y canlyniad yn ymddangos ar wefan y Senedd ac yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021

Biliau Arfaethedig Aelod

Chwilio am y term hwn

Tymor

Biliau Cydgrynhoi

Gall aelod o’r Llywodraeth gyflwyno Bil Cydgrynhoi at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a chyfraith gyffredin (Rheol Sefydlog 26C.2).

Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2022

Chwilio am y term hwn

Tymor

Busnes y Senedd

Y term casgliadol a ddefnyddir i ddisgrifio gwaith Aelodau’r Senedd yn y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn