Cyhoeddwyd 15/05/2012
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/05/2012
Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia
Ddydd Iau, byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia. Rydym ni’n gwrthwynebu’r fath anoddefgarwch yn chwyrn ac yn credu na ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl, eu cam-drin na’u haflonyddu ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol na’u hunaniaeth o ran rhywedd.
Y gwir trist amdani yw bod dros 80 o wledydd yn y byd yn parhau i ddatgan bod cyfunrywioldeb yn drosedd. Mae’r gwledydd hyn yn cosbi menywod, dynion a phlant ar sail eu rhywioldeb, ac mewn saith gwlad y gosb yw marwolaeth. Mae’r Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia yn rhoi llwyfan i bawb wneud datganiad cryf i fynnu gwelliannau yn ansawdd bywyd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, dramor ac yma yn y DU.
Felly, beth yw homoffobia a thrawsffobia?
Gelyniaethu, barnu, rhagfarnu, casáu neu ofni pobl gyfunrywiol neu’r rhai y credir eu bod yn bobl gyfunrywiol yw homoffobia . Gelyniaethu, barnu, rhagfarnu, casáu neu ofni pobl drawsrywiol neu’r rhai y credir eu bod yn bobl drawsrywiol yw trawsffobia . Mae homoffobia a thrawsffobia yn cael eu mynegi mewn llawer o ffyrdd. Gall y rhain gynnwys:
- Gwneud rhagdybiaethau am rywioldeb neu rywedd person ar sail gwisg, ymddygiad, neu bersonoliaeth.
- Canolbwyntio ar gyfeiriadedd rhywiol person, yn hytrach nag ar y person yn ei gyfanrwydd cymhleth.
- Ofni cyswllt cymdeithasol neu gorfforol gyda phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
- Osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol neu weithgareddau lle y byddai’n bosibl i eraill gredu eich bod yn berson lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol.
- Rhagdybio bod lesbiaid neu ddynion hoyw yn gweld pawb o’r un rhywedd â nhw’n ddeniadol.
- Trin pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ag anffafriaeth, neu wrthod darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau iddynt.
Mae effaith homoffobia neu drawsffobia yn eang, yn llawer ehangach, o bosibl, nag y byddwch chi’n sylweddoli. Mae homoffobia a thrawsffobia yn
- hybu gwahaniaethu, ac yn magu anoddefgarwch.
- cael effaith negyddol ar berfformiad cydweithwyr.
- niweidio hunan-barch, yn cynyddu cyfraddau absenoldeb ac yn gallu arwain at hunan-niwed a hunanladdiad.
- rhwystro pobl rhag bod yn gyffyrddus a bod yn nhw eu hunain.
- hybu eithrio pobl, ac nid yw’n cofleidio amrywiaeth.
- gallu effeithio ar unigolion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u plant.
- atgyfnerthu’r rôl a grëwyd gan gymdeithas ar gyfer y rhywiau (hynny yw, y gred bod dynion a merched yn ymddwyn, meddwl a siarad mewn modd penodol).
- lleihau cyfraddau cyrhaeddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia ar gael
yma.