‘Anableddau Anweladwy’- Nid yw pob anabledd yn weladwy

Cyhoeddwyd 07/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2016

[caption id="attachment_1239" align="alignright" width="166"]Not every disability is visible image Llun o berson â chysgod person mewn cadair olwyn,gyda'r pennawd'Not every diability is visible.'[/caption] Pan fydd pobl yn meddwl am anableddau maent yn meddwl am rywun mewn cadair olwyn fel arfer, ond, mewn gwirionedd, yn ôl Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Lloegr yn 2014, dim ond oddeutu 1.2 miliwn o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn sydd yn y DU, sef 2 y cant o boblogaeth y DU yn fras. Y realiti yw, nid yw person bob amser yn ‘edrych’ yn sâl pan fydd yn ymdopi â phroblem iechyd. Er gwaetha’r gred boblogaidd, nid yw’r mwyafrif o namau yn weladwy. O’r miliynau o bobl anabl sy’n byw yn y DU, dim ond canran fach sydd â salwch y gellir ei weld. Mae gweddill y bobl yn byw gydag anabledd anweladwy. Beth yw ystyr anabledd anweladwy? Mae anabledd anweladwy yn cyfeirio at amrywiaeth eang o gyflyrau ac afiechydon nad ydynt yn amlwg ar unwaith neu’n weladwy. Maent yn cynnwys: aflwyddau gwybyddol; anafiadau i’r ymennydd; anawsterau dysgu; epilepsi; canser; diabetes, clefyd y crymangelloedd, ffibromyalgia; HIV; AIDS; problemau gastroberfeddol; enseffalopathi myalgig neu enseffalomyelitis myalgig (ME); cyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â nam ar y clyw neu nam ar y golwg, sy’n ddim ond rhai enghreifftiau posibl. Mae’n werth nodi y gall person sydd â nam gweladwy neu sy’n defnyddio dyfais gynorthwyol fel cadair olwyn, teclyn cymorth cerdded neu ffon hefyd fod ag anabledd anweladwy, er enghraifft, gall person sy’n defnyddio cadair olwyn fod â chyflwr iechyd meddwl hefyd. Beth yw’r heriau sy’n deillio o fod ag anabledd anweladwy? [caption id="attachment_1238" align="alignleft" width="204"]Not all disabilities look like this image Llun o berson a person mewn cadair olwyn gyda'r pennawd 'Not all disabilities look like this. Some disabilities look like this.'[/caption] Fel unrhyw berson anabl, gall person sydd ag anabledd anweladwy wynebu stigma, allgau a gwahaniaethu, ynghyd â’r dasg o herio camsyniadau am eu cyflwr yn gyson. Fodd bynnag, efallai na fydd pobl ag anableddau anweladwy bob amser yn profi gwahaniaethu yn yr un ffordd â rhywun sydd ag anabledd amlwg. Gallant hefyd wynebu rhwystrau, fel cael eu cyhuddo o gamddefnyddio toiledau hygyrch, mannau parcio i bobl anabl, a chyfleusterau eraill. Dywedodd Sam Cleasby, Ymgyrchydd Anabledd: "Pan na fydd person yn edrych yn sâl, mae’n hawdd iawn gwneud y dybiaeth ei fod yn berson diog neu’n gybydd, neu nad yw’n meddwl am bobl eraill. Ond pan fyddaf fi’n mynd i’r toiledau hygyrch mae hyn oherwydd bod gen i fag colostomi, ac mae angen ychydig mwy o le arnaf a dŵr sy’n rhedeg." Mae gan unigolyn sydd ag anabledd anweladwy hawl i beidio â chael ei orfodi i egluro ei salwch wrth bobl dieithr. Mae angen i ni ddeall, i lawer o bobl, nid yw defnyddio toiledau hygyrch neu fannau parcio i’r anabl yn rhywbeth moethus neu’n fraint. Mae’n hanfodol er mwyn iddynt fyw eu bywydau. Yn sicr, nid yw’r rhai sy’n barnu yn gwneud hynny oherwydd malais, ond yn hytrach o awydd gwirioneddol i amddiffyn hawliau pobl sydd mewn angen gwirioneddol, a chred eu bod yn gwneud hynny. Ond hyd yn oed os yw’r barnu yn deillio o garedigrwydd mae’n well peidio â gwneud tybiaethau. Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn gwneud y peth iawn, ond gallech fod yn gwneud pethau’n waeth i rywun sy’n cael pethau’n anodd eisoes. Anableddau Anweladwy a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel cyflogwr, rydym yn cydnabod, yn ôl Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth NOMIS ym mis Mawrth 2013, bod gan 20.8 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio yn y DU (8.3 miliwn o bobl) anabledd. Deallwn fod annog ceisiadau gan bobl anabl yn effeithiol ar gyfer busnes. Gall ein helpu i:
  • gynyddu nifer yr ymgeiswyr o safon uchel sydd ar gael;
  • greu gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o gwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu a’r gymuned yr ydym yn byw ynddi, a
  • dod â sgiliau ychwanegol i’r busnes, fel y gallu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a allai arwain at arbedion mawr. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud addasiadau rhesymol i hwyluso pethau i weithwyr anabl yn aml yn isel. Fel arfer, mae’r manteision o gadw gweithiwr profiadol, medrus sydd wedi cael nam fel arfer yn fwy na chostau recriwtio a hyfforddi staff newydd. Mae hefyd yn beth da i’r unigolyn.
  • Dyna pam mae’r Cynulliad, fel cyflogwr, wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i staff y Comisiwn, i Aelodau’r Cynulliad, i’w staff ac i bobl Cymru. Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynhwysol sy’n gwerthfawrogi pawb sy’n gweithio yma, ynghyd â’u safbwyntiau amrywiol, eu sgiliau a’u cefndiroedd amrywiol. I’r perwyl hwnnw, rydym yn falch o gael:
  • Amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle i sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch: gan gynnwys cyfres o wahanol gyfleusterau toiled fel toiledau niwtral o ran rhyw, toiledau hygyrch, toiled Changing Places gyda theclyn codi i oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd. I gael gwybod rhagor am ein cyfleusterau hygyrch, ewch i Canllaw Euan, sef gwefan sy’n adolygu mynediad i bobl anabl.
  • Polisïau da, fel gweithio hyblyg, sy’n cynnwys seibiant gyrfa, gweithio rhan-amser, rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor, gweithio oriau cywasgedig a gwyliau arbennig. [caption id="attachment_1282" align="alignright" width="134"]positive about disabled people Logo tic Yn gadarn o blaid pobl anabl[/caption]
  • Rydym wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ‘Positif am Anabledd’. Cynllun yw hwn sy’n dangos i bobl ein bod yn gadarnhaol ynghylch cyflogi a chadw pobl anabl. Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi ymrwymo i’r cynllun gwarantu cyfweliad dau dic. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau y caiff pobl sydd ag anableddau gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion sylfaenol y swydd.
  • Rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle yn y Cynulliad sy’n agored i staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u staff, gan gynnwys Embrace - Ein rhwydwaith anabledd. Mae’r rhwydweithiau hyn yn darparu: cefnogaeth cymheiriaid anffurfiol a chyngor ar amrywiaeth, materion cynhwysiant a chydraddoldeb a rhannu gwybodaeth yn ymwneud â chydraddoldeb; hyrwyddo materion cydraddoldeb sy’n ymwneud â’u grŵp; gwella datblygiad gyrfa a dilyniant ar gyfer staff, gan gynnwys cyfleoedd mentora; a nodi materion sy’n effeithio ar staff, gan gynnwys, cynghori Comisiwn y Cynulliad ar faterion sy’n effeithio ar staff drwy asesu effaith polisïau.
[caption id="attachment_1237" align="aligncenter" width="280"]Embrace logo image Logo Rhwydwaith Anabledd Cynulliad Cenedlaethol Cymru[/caption]
  • Mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a Lles a’r Tîm Iechyd Galwedigaethol yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo gweithwyr i reoli eu hiechyd a’u lles. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnodau o absenoldeb, a gwasanaethau cwnsela a chymorth, drwy‘r Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Y prif bethau i‘w cofio am anableddau anweladwy:
  • Nid yw pawb sydd ag anabledd yn defnyddio cadair olwyn nac ag anabledd corfforol.
  • Mae pobl sydd ag anableddau anweladwy, yn ddyddiol, yn cael eu beirniadu am ddefnyddio cyfleusterau fel toiledau hygyrch a mannau parcio i bobl anabl, oherwydd ni all pobl weld eu cyflwr. Peidiwch â gwneud tybiaethau a pheidiwch byth â chodi ffrae na bod yn ymosodol gyda hwy.
  • Nid oes yn rhaid iddynt roi eglurhad i ddieithriaid ac ni ddylid gwneud iddynt wneud hynny.
  • Gyda‘r gefnogaeth gywir gall llawer o bobl anabl weithio, ac maent yn barod i wneud hynny.