Cyhoeddwyd 21/10/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon.
Er mwyn dathlu’r Mis hwn, hoffai Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad sôn am y bobl sydd wedi bod yn fodelau rôl iddynt ac sydd wedi'u hysbrydoli - eu ‘Harwyr o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig’.
Muhammad Ali - Cyn-focsiwr proffesiynol
[caption id="attachment_1037" align="alignnone" width="240"]

Y ddelwedd yn eiddo cyhoeddus gan Ira Rosenberg[/caption]
“Yn Fwslim crefyddol, na roddodd gorau iddi er gwaethaf yr heriau a wynebodd fel dyn du, yn arbennig yn y 1960au a'r 1970au. Mae wedi annog pobl i barchu a deall ei gilydd yn well ac ymdrechu i fod y gorau y gallant fod. Mae'n cynrychioli sut y gellir defnyddio chwaraeon i newid gwerthoedd cymdeithasol.”
Stephen K. Amos - Digrifwr
[caption id="attachment_1040" align="alignnone" width="200"]

Tynnwyd y ddelwedd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2005. Rhyddhawyd yn eiddo cyhoeddus[/caption]
“Am ei waith yn codi proffil cyfunrhywiaeth yn ei berfformiadau, fel y sioe unigol ddadlennol 'All of Me' yng Ngŵyl Fringe Caeredin, lle gwnaeth gydnabod yn gyhoeddus ei gyfunrhywiaeth ei hun iw gynulleidfa am y tro cyntaf.”
Tracy Chapman - Canwr a chyfansoddwr
[caption id="attachment_1042" align="alignnone" width="225"]

Delwedd gan Hans Hillewaert dan drwydded Creative Commons[/caption]
“Mae geiriau ei chaneuon, fel ‘Talkin’ ‘bout a revolution’ a ‘Fast Car’ yn amlygu'r pwysigrwydd o siarad yn erbyn anghyfiawnder a chodi ymwybyddiaeth o dlodi.”
Nelson Mandela - Cyn-arlywydd De Affrica
[caption id="attachment_1036" align="alignnone" width="296"]

Delwedd yn y parth cyhoeddus ar connect.123.com, o erthygl gan Katie Arango[/caption]
“Arweinydd diymhongar a oedd yn frwd dros heddwch ac a faddeuodd y bobl a'i neilltuodd am 27 o flynyddoedd, ac a arweiniodd pobl De Affrica mewn ysbryd o faddeuant a chytgord. Pe gallwn fod hanner y dyn yr oedd, mi fyddwn i'n hapus iawn.”
Pranab Mukherjee - Arlywydd India
[caption id="attachment_1039" align="alignnone" width="218"]

Delwedd yn y parth cyhoeddus[/caption]
“Oherwydd y gwaith mae wedi'i wneud â phobl dlawd. Mae'n llysgennad ar gyfer pobl dlawd.”
Barack Obama - Arlywydd Unol Daleithiau America
[caption id="attachment_1031" align="alignnone" width="206"]

Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Attribution 3.0 Unported[/caption]
“Fel rhywun o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd, heb amheuaeth, yn un o'r swyddi mwyaf pwerus yn y byd, mae'n amlwg fod pethau'n newid ac mae hynny'n rhoi gobaith ichi. Mae'n eicon anhygoel oherwydd bob amser rydych chi'n ei weld, rydych chi'n gweld dyn du sy'n mynegi ei hun yn dda, hyd yn oed pan gaiff ei bryfocio.”
Michelle Obama - Prif Foneddiges America, cyfreithwraig, awdur, gweithiwr elusennol
[caption id="attachment_1051" align="alignnone" width="199"]
![Deledd o Michelle_Obama_2013_official_portrait[1]](/blogfilescy/2015/10/225px-michelle_obama_2013_official_portrait1.jpg?w=199)
Y ddelwedd yn eiddo cyhoeddus. Llun swyddogol y Tŷ Gwyn gan Chuck Kennedy[/caption]“Mae'n fenyw anhygoel ac yn berson rhagorol am sawl rheswm, gan gynnwys ei hymrwymiad i hyrwyddo bwyta'n iach a hawl menywod i addysg.”
Oprah Winfrey - cyflwynydd sioeau siarad, actores, cynhyrchydd a dyngarwr sy'n chwarae rhan arwyddocaol yn y cyfryngau
[caption id="attachment_1038" align="alignnone" width="300"]

Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Atribution Share-Alike 3.0. Trwydded Creative Commons Attribution Share-Alike 3.0 < br / > Mae cyfrannau na gyfrannwyd gan ymwelwyr yn Hawlfraint 2015 Tangient LLC[/caption]
“Mae hi'n enghraifft o lwyddiant yn wyneb amrywiaeth. Nid yn unig y mae'n stori go iawn o dlodi i gyfoeth, ond ar ôl gweithio'n galed yn ei maes, mae wedi defnyddio ei sefyllfa i wneud gwahaniaeth, gan ddefnyddio ei dylanwad a'i llwyddiant i ysbrydoli, addysgu a galluogi pobl o bob cefndir, ym mhob cwr o'r byd.”
Stevie Wonder – Cerddor
[caption id="attachment_1062" align="alignnone" width="226"]

Trwyddedwyd o dan Drwydded Brasil Priodoliad Cyffredin Creadigol 3.0[/caption]
“Plentyn rhyfeddol. Yn ddawnus yn naturiol a chyda llawer o dalent, dysgodd ei hun i ddechrau chwarae offerynnau'n 4 oed. Llwyddodd i oresgyn anawsterau a gofid a bod y gorau yn ei faes, gan barhau i fod yn berthnasol ac yn llwyddiannus drwy gydol ei oes.”
Malala Yousafzai - Gweithredydd o Bacistan ar gyfer addysg i fenywod a'r person ieuengaf erioed i ennill y Wobr Nobel
[caption id="attachment_1035" align="alignnone" width="220"]

Delwedd gan Russell Watkins/Adran Datblygu Rhyngwladol. Ar gael o dan delerau Hawlfraint y Goron/Trwydded Llywodraeth Agored/Creative Commons[/caption]
“Mae hi’n fodel rôl fodern a chryf. Mae ei dewrder a'i phenderfyniad i greu ac i sicrhau newid i fenywod ym mhob cwr o'r byd ar ôl ei phrofiad trawmatig, yn wir, yn arbennig iawn. Mae'n ferch hynod o ddewr, sydd â stori anhygoel i’w hadrodd. Yn ddim ond 18 mlwydd oed, mae eisoes wedi cyflawni llawer iawn, a bydd ei hymdrechion yn sicrhau y bydd hi’n cyflawni llawer iawn rhagor.”
Leymah Gbowee - Arweinydd hawliau menywod a gwrth-ryfel Liberia, enillydd y Wobr Heddwch Nobel ar y cyd yn 2011
[caption id="attachment_1032" align="alignnone" width="300"]

Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Attribution 3.0 Unported[/caption]
Os hoffech wybod mwy am ein rhwydwaith staff BME, cysylltwch â
Raz Roap, Cadeirydd y rhwydwaith staff BME.
Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r Cynulliad?
Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 200 6565, neu anfonwch neges e-bost at
cysylltu@cynulliad.cymru.
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru, ewch i
wefan Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.