Bathodyn Her Democratiaeth Sgowtiaid Cymru

Cyhoeddwyd 17/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/01/2014

Yn ddiweddar mae tîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi creu adnoddau i gyd-fynd â bathodyn Her Democratiaeth Sgowtiaid Cymru. Bathodyn Her Democratiaeth Crëwyd yr adnoddau yma i helpu gwahanol adrannau o’r Sgowtiaid i gwblhau gofynion er mwyn derbyn eu bathodyn. Mae’r adnoddau yn cynnwys gwahanol weithgareddau sydd yn gallu cael eu lawr lwytho a’i brintio ac yn galluogi i’r Sgowtiaid gwblhau adrannau o’i bathodyn Her Democratiaeth mewn ffordd ymarferol a llawn hwyl. Un o ofynion adran y Sgowtiaid sydd rhwng 10 ½ a 14 mlwydd oed yw gwybod pwy yw eu Haelodau Cynulliad lleol a sut i gysylltu â hwy. Rhaid iddynt drefnu i gwrdd ag un ohonynt i ddeall sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio a beth yw eu cyfrifoldebau hwy. Mae Sgowtiaid o Lanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, gogledd Cymru yn ddiweddar wedi gwahodd un o’u Haelodau Cynulliad lleol, Rhun Ap Iorwerth AC, i fynychu un o’u cyfarfodydd er mwyn gofyn cwpl o gwestiynau iddo am y Cynulliad a’i rôl fel Aelod Cynulliad. Bu iddynt hefyd wahodd Sgowtiaid o Bont Menai a Biwmares i fod yn rhan o’r digwyddiad. Bathodyn Her Democratiaeth Wedi i’r adnoddau gael eu creu, eu cyhoeddi ar ein gwefan a’i ddosbarthu ymysg arweinyddion Sgowtiaid ar draws Cymru mewn diwrnod o hwyl yn Llanfair ym Muallt haf diwethaf, mae rhai o Gybiau’r Sgowtiaid yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn wedi derbyn eu bathodyn Her Democratiaeth Sgowtiaid Cymru. Bathodyn Her Democratiaeth Os hoffech fwy o wybodaeth am adnoddau bathodyn Her Democratiaeth Sgowtiaid Cymru anfonwch ebost atom: timallgymorth@cymru.gov.uk