Rholyn o garped coch ar risiau'r Senedd.

Rholyn o garped coch ar risiau'r Senedd.

Beth yw agoriad seremonïol y Senedd?

Cyhoeddwyd 22/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/09/2026

Mae agoriad seremonïol y Senedd yn ddigwyddiad a gynhelir ar ôl etholiad Senedd, pan fydd Pennaeth y Wladwriaeth yn ymweld â Senedd Cymru. Mae’n cynnwys anerchiadau gan y Llywydd, y Prif Weinidog a’r Brenin.
Yn ystod y seremoni, caiff y byrllysg ei gludo i’r Siambr, ac mae agoriad ffurfiol tymor newydd y Senedd yn cael ei ddathlu gyda pherfformiadau diwylliannol o bob cwr o Gymru.

 

Bydd agoriad seremonïol y Senedd yn 2026 yn cael ei gynnal ddydd Iau 15 Hydref 2026.

Mae eleni hefyd yn garreg filltir bwysig yn natblygiad democratiaeth Cymru. Erbyn hyn, mae gan y Senedd 96 o Aelodau, gan gynnwys llawer o Aelodau newydd sydd wedi’u hethol am y tro cyntaf. 

Mae’r agoriad seremonïol nid yn unig yn ddathliad o’r Senedd, ond hefyd o bobl a chymunedau Cymru y mae eu lleisiau, profiadau a dyheadau yn cael eu cynrychioli o fewn ei muriau.

Pwy sy’n bresennol yn yr agoriad seremonïol?

Aelodau o’r Senedd, Pennaeth y Wladwriaeth, sef Ei Fawrhydi y Brenin  Charles III ar hyn o bryd, a gwesteion gwadd.

Beth sy'n digwydd yn ystod agoriad seremonïol y Senedd?

Bydd y digwyddiad yn dechrau pan gaiff y byrllysg ei gludo i’r Senedd gan gludwr y byrllysg, sydd fel arfer yn aelod o staff Comisiwn y Senedd. Eleni, bydd Ffiôn-Hâf Scott ac Aryan Gupta, Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, yn cerdded gyda chludwr y byrllysg.

Bydd Aelodau o’r Senedd a gwesteion allweddol yn dilyn cludwr y byrllysg i mewn i’r adeilad.

Unwaith y bydd pawb yn eu seddi, bydd seremoni’r agoriad seremonïol yn dechrau yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd. Bydd Ei Fawrhydi’r Brenin yn traddodi araith, ynghyd â Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies AS, a Phrif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth AS.  
Yna, caiff y byrllysg ei osod yn ei le i nodi agoriad swyddogol y Seithfed Senedd.

 

Agoriad swyddogol y Pumed Cynulliad. Aelod o staff yn cario’r byrllysg i mewn i adeilad y Senedd.
Agoriad swyddogol y Pumed Cynulliad. Aelod o staff yn cario’r byrllysg i mewn i adeilad y Senedd.

 

Pam mae’r Senedd yn cynnal agoriad seremonïol?

Yn draddodiadol, mae agoriad seremonïol y Senedd yn achlysur i nodi dechrau tymor seneddol newydd yn dilyn etholiad Senedd. Mae Pennaeth y Wladwriaeth, sef Ei Fawrhydi y Brenin Charles III ar hyn o bryd, yn bresennol i gydnabod ei gefnogaeth i’r sefydliad a’i rôl bwysig ym mywyd pobl Cymru.

Agorodd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru yn swyddogol ym 1999, ac agorodd bob tymor yn dilyn etholiad yng Nghymru hyd at ei marwolaeth yn 2022. Dyma fydd y tro cyntaf i’w Fawrhydi fynd i agoriad seremonïol yn ei rôl fel Brenin. 

 

Byrllysg y Senedd
Byrllysg y Senedd

 

Beth yw'r byrllysg?

Fel llawer o seneddau, mae gan Senedd Cymru fyrllysg seremonïol. Ffon addurnedig wedi’i gwneud o bren neu fetel yw byrllysg, ac fe’i defnyddir yn ystod digwyddiadau ffurfiol fel agoriad swyddogol y Senedd.

Rhodd gan Senedd De Cymru Newydd oedd byrllysg y Senedd, a gyflwynwyd i goffáu agoriad adeilad y Senedd yn 2006. Cafodd ei ddylunio a'i wneud gan Fortunato Rocca, gof aur o Melbourne, a chafodd ei greu â llaw gan ddefnyddio aur, arian a phres.

Yn ystod yr agoriad seremonïol, caiff y byrllysg ei osod yn ei briod le i nodi agoriad swyddogol seithfed tymor Senedd Cymru. 

Pwy fydd yn perfformio?

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau creadigol gan gerddorion, dawnswyr, cantorion ac artistiaid o bob cwr o Gymru.

Bydd perfformiadau gan Mared Emry Pugh-Evans, Telynores Swyddogol Ei Fawrhydi y Brenin; Côr Merched Plastaf; Arpe Dolce; a Côr CFfI Cymru.

Mae Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi ysgrifennu cerdd newydd i nodi'r achlysur. 

Sut alla i wylio agoriad seremonïol y Senedd?

Ble bynnag yr ydych yn y byd, gallwch ymuno â ni’n fyw ar gyfer agoriad swyddogol y Seithfed Senedd.

Gallwch wylio'r seremoni agoriadol o Siambr y Senedd yn fyw ar 15 Hydref 2026 o 11:00 GMT.

Beth ddigwyddodd y tro diwethaf?

I gael blas o'r hyn fydd yn digwydd ar 15 Hydref, gallwch weld lluniau o agoriad y Chweched Senedd a’r Bumed Cynulliad ar Flickr.

Gallwch wylio agoriad y Chweched Senedd yn ei gyfanrwydd ar Senedd.tv