Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Beth yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 17/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/11/2026

Crynodeb

Cynllun arfaethedig ar gyfer sut y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Dyma’r man cychwyn ar gyfer craffu a dadlau, gan helpu i lywio cyllid gwasanaethau cyhoeddus a blaenoriaethau sy’n effeithio ar bobl ar draws y wlad.

Beth yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru?

Bob hydref, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft. Mae’r gyllideb ddrafft yn nodi sut y mae’n bwriadu gwario arian cyhoeddus a chasglu trethi yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol i ddod.

Meddyliwch amdani fel fersiwn gyntaf o gynllun gwariant. Mae’n dangos lle y gellid cyfeirio cyllid ar gyfer gwasanaethau a blaenoriaethau megis gofal iechyd, ysgolion, tai, trafnidiaeth a chymorth i gymunedau.

Mae cyhoeddi yn yr hydref yn rhoi cyfle i Aelodau o’r Senedd, pwyllgorau a rhanddeiliaid archwilio’r cynigion, gofyn cwestiynau ac awgrymu newidiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adborth a gallai wneud newidiadau cyn cyhoeddi ei chyllideb derfynol ddechrau’r flwyddyn a ganlyn.

Mae’r Senedd yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru a’i chynlluniau trethiant a gwariant.

Beth mae’r gyllideb ddrafft yn ei gynnwys?

Mae’r gyllideb ddrafft yn nodi gwariant arfaethedig Llywodraeth Cymru ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol

  • Addysg a sgiliau

  • Tai

  • Llywodraeth leol

  • Trafnidiaeth

  • Chwaraeon a diwylliant

  • Yr hinsawdd a rhaglenni amgylcheddol

  • Datblygu economaidd a chymorth i fusnesau

Pam mae’r Gyllideb Ddrafft yn bwysig?

Mae’r swm o arian a gynlluniwyd ar gyfer pob maes yn dangos yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei flaenoriaethu yn ystod y flwyddyn i ddod.

Felly, gallai newidiadau yn y Gyllideb Ddrafft effeithio ar bethau sy’n bwysig yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Pethau fel cyflwr ffyrdd lleol, y bws rydych yn dibynnu arno i fynd i’r gwaith neu’r coleg, y cymorth sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn eich ardal, neu gyllid i fusnesau bach yn eich cymuned.

Mae’r Gyllideb Ddrafft yn gadael i bobl, sefydliadau a chymunedau weld sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario arian cyhoeddus ac ymateb i’r cynlluniau.

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • 17 Tachwedd 2026  Bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei gosod yn swyddogol gerbron y Senedd.

  • Tachwedd 2026 – Ionawr 2027  Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Gyllideb Ddrafft yn fanwl ac yn cyhoeddi ei argymhellion mewn adroddiad. Bydd pwyllgorau eraill y Senedd hefyd yn edrych ar y Gyllideb Ddrafft ac yn cyhoeddi argymhellion.

  • 18 Ionawr 2027  Dyddiad cau i’r holl bwyllgorau gyhoeddi eu hargymhellion.

  • 19 Ionawr 2027  Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod y Gyllideb Ddrafft.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adborth a’r argymhellion ac yn ymateb iddynt.

  • 16 Chwefror 2027  Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol.

  • 23 Chwefror 2027   Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod ac yna’n pleidleisio ynghylch a ddylid cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol.

O ble y daw’r arian?

Mae’r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod gan Lywodraeth y DU drwy grant bloc Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn codi rhywfaint o arian yn uniongyrchol yng Nghymru drwy drethi datganoledig ac incwm arall.

Gyda’i gilydd, y ffynonellau hyn yw’r cyllid sydd ar gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddiadau ar draws Cymru.

Beth sy’n digwydd os na chaiff y Gyllideb Derfynol ei phasio gan y Senedd?

Fel arfer, mae’r Senedd yn cymeradwyo Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru drwy bleidleisio ar Gynnig y Gyllideb Flynyddol yn y Cyfarfod Llawn.

Os na fydd y gyllideb wedi’i chymeradwyo erbyn dechrau’r flwyddyn ariannol (fel arfer wythnos gyntaf mis Ebrill), caiff Llywodraeth Cymru a sefydliadau a ariennir yn uniongyrchol ganddi, gan gynnwys Comisiwn y Senedd, y Comisiwn Etholiadol ac Archwilio Cymru, barhau i weithredu drwy ddefnyddio 75% o gyllideb y flwyddyn flaenorol.

Os na fydd cyllideb wedi’i chymeradwyo o hyd erbyn diwedd mis Gorffennaf, bydd hyn yn cynyddu i 95% o gyllideb y flwyddyn flaenorol.

Nid oes dyddiad cau cyfreithiol i’r Senedd gymeradwyo Cynnig y Gyllideb Flynyddol, a gellir ei dderbyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol.

Y Gyllideb Ddrafft yw'r cam cyntaf wrth benderfynu sut i wario biliynau o bunnoedd yng Nghymru.

Neu i gael rhagor o wybodaeth am y Gyllideb Ddrafft a phroses y gyllideb, edrychwch ar ganllaw Ymchwil y Senedd:

Edrych tua’r dyfodol a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28