Beth yw Etholiad y Senedd?

Cyhoeddwyd 27/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2025

O’r pleidleiswyr newydd i’r rhai ohonoch sydd am gael eich atgoffa o beth sy'n digwydd mewn etholiad Senedd, mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer 7 Mai.

Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru.

Y Senedd yw’r lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

O 2026 ymlaen, bydd ganddi 96 o Aelodau a fydd yn cael eu hethol o bob rhan o Gymru i siarad dros eu cymunedau.

Etholiad y Senedd yw eich cyfle i ddewis yr Aelodau hynny.

Sut mae’n gweithio?

Etholiad y Senedd yw’r adeg pan fydd pleidleiswyr yng Nghymru yn penderfynu pwy fydd yn cynrychioli eu hardal leol – eu hetholaeth – yn Senedd Cymru.

Yn 2026, bydd gan bob ardal chwe ‘sedd’ yn y Senedd, sy'n golygu y bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob etholaeth.

Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd gennych chi un bleidlais ar gyfer y blaid wleidyddol neu'r ymgeisydd annibynnol rydych am iddo gynrychioli eich etholaeth yn y Senedd.

Pam mae hyn yn bwysig?

Y Senedd yw senedd Cymru. Mae'n gwneud cyfreithiau i Gymru mewn meysydd fel iechyd, ysgolion, trafnidiaeth, ffermio, yr amgylchedd a'r Gymraeg. Mae cyfreithiau Cymru yn ystyried y sefyllfa yng Nghymru, a all fod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.

Felly, bydd gan yr Aelodau a etholir gennych ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.

Sut ydw i'n pleidleisio?

Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, fe allwch chi bleidleisio yn Etholiad y Senedd 2026.

Ond rhaid i chi gofrestru yn gyntaf. Mae cofrestru ar-lein yn syml ac yn cymryd pum munud yn unig.

Ar ôl i chi gofrestru, caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn yr etholiad. Bydd hwn yn dweud wrthych ble mae angen i chi fynd i bleidleisio (eich gorsaf bleidleisio) ar ddiwrnod yr etholiad.

Cyn yr etholiad

Bydd pleidiau gwleidyddol yn paratoi rhestrau gyda hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol, hefyd, sefyll mewn etholiad.

Gallwch chi weld pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a phenderfynu pwy fydd yn cael eich pleidlais.

Ar ddiwrnod yr etholiad

Caiff etholiad nesaf y Senedd ei gynnal ar 7 Mai 2026. Nid oes angen i chi ddod â dogfen adnabod (ID) pan fyddwch chi'n pleidleisio yn etholiad y Senedd.

Yn eich gorsaf bleidleisio, byddwch yn cael papur pleidleisio a bydd gennych un bleidlais ar gyfer y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol yr hoffech iddo eich cynrychioli yn y Senedd.

Bydd eich papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi’n dal i allu gweld pwy yw’r ymgeiswyr yn yr etholiad.

Sut mae'ch pleidlais yn gweithio

  • Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Felly, os bydd plaid yn ennill tair sedd mewn etholaeth, bydd y tri pherson uchaf ar ei rhestr yn dod yn Aelodau dros yr ardal honno.
  • Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd hefyd yn ennill sedd yn y Senedd ar gyfer yr etholaeth honno.

Bydd y seddi’n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei gael.

Felly, os caiff Plaid A 50% o’r pleidleisiau mewn etholaeth, bydd y blaid honno yn debygol o gael tair o’r chwe sedd. Os caiff Plaid B 30%, bydd y blaid honno’n debygol o gael dwy o'r chwe sedd. Os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, bydd hefyd yn ennill sedd.

Dysgwch fwy am y system bleidleisio newydd yn etholiad y Senedd 2026.

Eich Aelodau

Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’ch Aelodau – yn bersonol, ar-lein, neu dros y ffôn – dim ots dros bwy y gwnaethoch chi bleidleisio. Mae pob un ohonyn nhw yn eich cynrychioli chi’n gyfartal.

Darllenwch ein blog i weld sut mae Aelodau'n gweithio i chi, ym Mae Caerdydd ac yn eich cymuned: Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?