Beth yw'r Cyfarfod Llawn?

Cyhoeddwyd 02/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2026

Y Cyfarfod Llawn yw’r cyfarfod llawn yn y Siambr o bob un o’r 96 o Aelodau o’r Senedd. Dyma lle maen nhw'n siarad ar eich rhan, yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion pwysig, ac yn pasio deddfau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.

Fel arfer, cynhelir y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn ystod y tymor. Mae ar agor i'r cyhoedd ddod i wylio yn y cnawd, neu ar-lein ar Senedd.tv.

Trefnir y cyfarfodydd gan y Pwyllgor Busnes a chaiff Agenda'r Cyfarfod Llawn ei chyhoeddi ymlaen llaw fel y gallwch weld beth fydd yn cael ei drafod. 

Beth sy'n digwydd yn ystod y Cyfarfod Llawn?

Mae 'busnes y Cyfarfod Llawn' yn cyfeirio at bopeth sy'n digwydd yn ystod Cyfarfod Llawn. Mae eitemau o fusnes ar yr Agenda yn cynnwys:

  • cwestiynau i Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr y Senedd
  • datganiadau neu ddadleuon ar bynciau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, pleidiau gwleidyddol neu Aelodau unigol
  • ystyried darnau o ddeddfau sy'n effeithio ar Gymru


Beth am edrych yn fwy manwl.

Holi Llywodraeth Cymru

Un o rolau allweddol y Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac yn y Cyfarfod Llawn y mae llawer o'r gwaith craffu hwn yn digwydd, drwy gwestiynau llafar ac ysgrifenedig.

Mae'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob dydd Mawrth, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ateb cwestiynau am eu meysydd polisi ar sail rota. Mae'r Llywydd yn cynnal balot wythnosol i benderfynu pa Aelodau all ofyn cwestiynau.

Atebir cwestiynau i Weinidogion y Llywodraeth neu Gomisiynwyr y Senedd naill ai yn y Siambr neu yn ysgrifenedig os oes angen rhagor o wybodaeth.

Os bydd rhywbeth brys neu bwysig yn codi, gall Aelodau wneud cais i ofyn Cwestiynau Amserol neu hyd yn oed Gwestiynau Brys os oes angen ateb cyflym.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae Cwestiynau i'r Prif Weinidog (FMQs) yn rhan reolaidd o'r Cyfarfod Llawn. Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog:

  • Mae Aelodau’n holi’r Prif Weinidog am waith Llywodraeth Cymru a materion allweddol
  • Mae'r Prif Weinidog yn ymateb, gan nodi safbwynt Llywodraeth Cymru
  • Gall aelodau ofyn cwestiynau atodol i herio neu geisio eglurhad

Er y caiff y prif gwestiynau eu cyflwyno ymlaen llaw, mae llawer o'r drafodaeth yn digwydd drwy gwestiynau dilynol.

Dadleuon

Dadleuon yw un o’r eitemau mwyaf cyffredin o fusnes ar agenda’r Cyfarfod Llawn.

Gellir trafod unrhyw beth sydd o ddiddordeb i bobl yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn. Gall Gweinidogion, Comisiynwyr y Senedd, gwrthbleidiau neu Aelodau unigol gynnig dadleuon.

Dysgwch ragor am ddadleuon

Datganiadau

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiadau llafar a diweddariadau ysgrifenedig am bolisïau newydd neu faterion pwysig ar gyfer pobl yng Nghymru.

Gall Aelodau eraill o'r Senedd hefyd wneud datganiadau, gan gynnwys y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, Comisiynwyr y Senedd neu Aelodau eraill sydd â rolau penodol (er enghraifft, Aelod yn cyflwyno deddf newydd).

Gall Aelodau hefyd ddod â materion i sylw'r Senedd drwy drefnu datganiadau byr o 90 eiliad bob wythnos.

Gwneud deddfau newydd

Mae gwaith craffu ar ddeddfau drafft (Biliau) yn digwydd ar wahanol gyfnodau. Mae'r Aelodau'n eu trafod, yn pleidleisio ar newidiadau, ac yn y pen draw yn penderfynu a ddylent ddod yn gyfraith yng Nghymru.

Pwy all siarad yn ystod y Cyfarfod Llawn?

Gall pob Aelod siarad yn ystod y Cyfarfod Llawn, ond rhaid iddynt gael eu galw gan y Llywydd. Gall Aelodau wneud cais i siarad cyn y Cyfarfod Llawn, neu yn ystod y cyfarfod.

Gall Aelodau siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg, gyda chyfieithu byw ar gael drwy glustffonau yn y Siambr.

Ble mae pawb yn eistedd?

Caiff y Cyfarfod Llawn ei gadeirio gan y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, sy'n eistedd ym mlaen y Siambr, yn wynebu'r holl Aelodau. Y Llywydd / Dirprwy Lywydd sy’n cadw trefn ac yn gwahodd Aelodau i siarad. Gweinidogion Llywodraeth Cymru (y cabinet) sy’n eistedd yn y rhes gyntaf o seddi sy’n wynebu'r Llywydd. Mae'r Prif Weinidog yn eistedd yn y canol yn rhes y cabinet. Mae'r holl Aelodau eraill yn eistedd y tu ôl iddynt ac o'u cwmpas, yn eu grwpiau pleidiau priodol.

Pam mae'r Cyfarfod Llawn yn bwysig

Y Cyfarfod Llawn yw lle mae gwaith y Senedd yn dod at ei gilydd, lle mae'r materion sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yn cael eu trafod yn gyhoeddus.

Drwy ddod â'r holl Aelodau ynghyd mewn un lle, mae'r Cyfarfod Llawn yn sicrhau bod gwahanol safbwyntiau'n cael eu clywed a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dryloyw.

Gwylio'r Cyfarfod Llawn

Does dim angen i chi ddod i Fae Caerdydd i wylio'r Cyfarfod Llawn. Darlledir y sesiynau'n fyw ac maent ar gael i'w gwylio ar-lein ar Senedd.tv.

Mae Cofnod y Trafodion, sef trawsgrifiad o bob Cyfarfod Llawn, ar gael a gellir chwilio drwyddo’n llawn ar ein gwefan.

Boed gennych ddiddordeb mewn mater penodol neu os hoffech ddeall rhagor am sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yng Nghymru, mae'n ffordd wych o weld democratiaeth ar waith.

 

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch am y gwahanol fathau o fusnes y Cyfarfod Llawn.

Dysgwch ragor am y ffordd y gwneir deddfau yng Nghymru.

I gael gwybodaeth fanylach, lawrlwthwch ein Canllaw i'r Cyfarfod Llawn (PDF, 364kb). Yma gallwch ddarllen rhagor am fathau o fusnes, gweithdrefnau swyddogol a'r rheolau y mae'n rhaid i Aelodau o’r Senedd eu dilyn.