Beth yw etholaeth?
Ar gyfer etholiad y Senedd, mae Cymru wedi’i rhannu’n ardaloedd pleidleisio gwahanol a elwir yn etholaethau. Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad rydych chi'n pleidleisio i ethol rhywun i gynrychioli'r etholaeth rydych chi'n byw ynddi.
Beth sy'n newydd?
Yn etholiad y Senedd 2026, bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth, a fydd yn disodli’r 40 etholaeth sydd ganddi ar hyn o bryd.
Bydd pob etholaeth newydd yn ethol chwe Aelod o’r Senedd. Felly, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru, bydd chwe Aelod yn eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn y Senedd. Gallwch gysylltu ag unrhyw un, neu bob un ohonynt, ynghylch. materion yn eich ardal leol.
Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd drwy deipio eich cod post yn ein map i ddod o hyd i etholaethau.
Sut cafodd yr etholaethau newydd eu creu?
Cafodd ardaloedd yr etholaethau newydd eu creu gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Crëwyd yr ardaloedd newydd drwy baru 32 o etholaethau Senedd y DU yn 16 o etholaethau newydd y Senedd. Ystyriwyd ffactorau eraill hefyd, gan gynnwys:
- Ffiniau llywodraeth leol presennol
- Cysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth
- Nodweddion daearyddol, fel afonydd a mynyddoedd
- Cysylltiadau lleol (gan gynnwys defnydd o’r Gymraeg)
Cynhaliodd y Comisiwn ddau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau, a gwnaeth newidiadau yn seiliedig ar yr adborth a gafodd. Cyhoeddwyd y ffiniau terfynol ym mis Mawrth 2025.
Etholaethau y Senedd ar gyfer Etholiad 2026:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gaerfyrddin
- Gŵyr Abertawe
- Brycheiniog Tawe Nedd
- Afan Ogwr Rhondda
- Pontypridd Cynon Merthyr
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Sir Fynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- Caerdydd Penarth
- Caerdydd Ffynnon Taf
- Pen-y-bont Morgannwg
I gael rhagor o wybodaeth a mapiau o’r etholaethau newydd, darllenwch yr erthygl gan Ymchwil y Senedd:
Etholaethau newydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 wedi’u cyhoeddi