#Betsi – Ailymweld flwyddyn yn ddiweddarach @SeneddArchwilio
Cyhoeddwyd 07/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn dilyn adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’, bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod y canfyddiadau a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Swyddfa Archwilio Cymru. Hefyd, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad gan randdeiliaid.
Yn dilyn trafodaeth ar yr holl dystiolaeth a gafwyd, lluniodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Rhagfyr 2013, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i argymhellion y Pwyllgor ym mis Chwefror 2014.
Nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dilyn cyhoeddi adroddiad dilynol ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, bydd y Pwyllgor yn ailedrych ar y pwnc hwn, drwy glywed rhagor o dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cynnydd o ran gweithredu ein hargymhellion, pan fyddant yn dod gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014.
Gwyliwch Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn siarad am y cyfarfod hwn.
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=VUSgaizeAss&w=560&h=315]
Dilynwch y Pwyllgor @SeneddArchwilio a chyfrannwch at y drafodaeth drwy ddefnyddio #betsi.