#Betsi – Ailymweld flwyddyn yn ddiweddarach @SeneddArchwilio

Cyhoeddwyd 07/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2014

Yn dilyn adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’, bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod y canfyddiadau a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Swyddfa Archwilio Cymru. Hefyd, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad gan randdeiliaid. Yn dilyn trafodaeth ar yr holl dystiolaeth a gafwyd, lluniodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Rhagfyr 2013, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i argymhellion y Pwyllgor ym mis Chwefror 2014. Nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dilyn cyhoeddi adroddiad dilynol ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, bydd y Pwyllgor yn ailedrych ar y pwnc hwn, drwy glywed rhagor o dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cynnydd o ran gweithredu ein hargymhellion, pan fyddant yn dod gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014. Gwyliwch Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn siarad am y cyfarfod hwn. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=VUSgaizeAss&w=560&h=315] Dilynwch y Pwyllgor @SeneddArchwilio a chyfrannwch at y drafodaeth drwy ddefnyddio #betsi.