Betty Campbell (MBE) yn annerch staff y Cynulliad fel rhan o’r Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyhoeddwyd 16/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2016

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi gweithle cynhwysol, lle y mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi.

Mae’r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yma yn y Cynulliad yn trefnu digwyddiadau yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth ac i ysgogi trafodaeth ynglŷn â materion amrywiol, a byddwn yn cymryd rhan yn yr Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant bob blwyddyn. [caption id="attachment_1496" align="alignright" width="369"]Betty Campbell photo Darlun o Betty Campbell[/caption] Ar 8 Gorffennaf 2016 gwahoddwyd Betty Campbell (MBE) i siarad â staff yn y Cynulliad gan INSPIRE, y rhwydwaith menywod, a REACH, y rhwydwaith i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gwahoddodd y rhwydweithiau Betty i’r Cynulliad fel rhan o fenter ar y cyd ganddynt, fel y gallent glywed ei hanes yn ei geiriau ei hun. Er y dywedwyd wrth Betty pan oedd hi’n ferch ifanc y byddai cyflawni ei breuddwyd o ddod yn athrawes "bron yn amhosibl", ni wnaeth hyn ei rhwystro ac aeth ymlaen i oresgyn nifer o rwystrau i ddod y pennaeth ysgol du cyntaf yng Nghymru yn ystod y 1970au. Mae hi’n parhau’n uchel ei pharch yng nghymuned Butetown, lle y bu yn bennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart, a chaiff ei chydnabod bellach fel awdurdod academaidd a phwysig ym maes addysg. Mae Betty yn wir yn fodel rôl ar gyfer pobl dduon a menywod, a dyna pam y mae dau o’n rhwydweithiau staff yn teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i glywed ei stori yn bersonol. Roedd y sesiwn holi ac ateb gyda Betty yn arbennig o boblogaidd, yn wir, cawsom gynifer o gwestiynau, fe ddaeth yr amser i ben cyn i Betty fedru ateb pob un ohonynt! Roeddem yn ddigon ffodus i recordio cyfweliad gyda Betty yn ystod ei hymweliad â’r Cynulliad, felly gallwch chwithau hefyd rannu ei stori. Dyma ei stori, yn ei geiriau ei hun: Beth ysbrydolodd hi; yr hyn sydd wedi’i helpu i gyflawni ei nodau; yr ysbrydoliaeth y mae’n ei roi i eraill sy’n wynebu rhwystrau tebyg iddi hi a’i chyngor i bobl sydd hwythau’n wynebu eu rhwystrau eu hunain. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=N-9Ct_Gvhes&w=560&h=315] I gael rhagor o wybodaeth