Nod Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ledled Cymru.
Cyflwynwyd y Bil ym mis Gorffennaf 2025 gan Mark Isherwood AS, yr Aelod sy'n Gyfrifol, ac mae'r Senedd yn ystyried a ddylai ddod yn gyfraith.
Nod y Bil yw gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i arwyddwyr BSL Byddar a chydnabod eu hanghenion iaith.
Trafodaethau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Bil
Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymgynghoriad ar egwyddorion cyffredinol y Bil rhwng 30 Gorffennaf a 12 Medi 2025. Roedd cyfle i bobl gyflwyno ymatebion yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.
Rhoddodd pobl sydd â gwybodaeth a phrofiad perthnasol dystiolaeth mewn cyfarfodydd pwyllgor ym mis Medi a mis Hydref 2025.
Llywiwyd gwaith y Pwyllgor hefyd gan grwpiau ffocws a oedd yn cynnwys pobl Fyddar.
Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a ddaeth i law yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Barn y Pwyllgor
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Cred y Pwyllgor bod angen deddfwriaeth er mwyn:
- Gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Byddar.
- Cydnabod eu hanghenion iaith a’u hanghenion diwylliannol.
- Sicrhau nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl o'i gymharu â gwledydd eraill y DU.
Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn rhybuddio bod yn rhaid i'r Bil arwain at newid gwirioneddol yn hytrach na gweithrediadau symbolaidd.
Mae llwyddiant yn dibynnu ar y cablynol:
- Cyllid digonol.
- Canllawiau clir.
- Ymgysylltu cadarn â'r gymuned Fyddar.
Argymhellion y Pwyllgor
Dyma grynodeb o’r hyn mae’r Pwyllgor wedi argymell ar gyfer y Senedd, yr Aelod sy’n Gyfrifol neu Lywodraeth Cymru:
- Dylai’r Senedd gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
- Dylid archwilio a oes angen egluro’r diffiniad o Iaith Arwyddion Prydain.
- Dylai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch Iaith Arwyddion Prydain o fewn 18 mis.
- Dylai ymgynghoriad ar ganllawiau Iaith Arwyddion Prydain fod yn orfodol.
- Dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd cyrff cyhoeddus yn cydweithio'n rhanbarthol a sut y bydd eu capasiti’n cynyddu er mwyn cyflawni cynlluniau lleol.
- Fel rhan o adroddiadau cynnydd cynnar, dylid ystyried gosod dyletswyddau ar fwy o gyrff cyhoeddus.
- Dylid sicrhau bod y broses o benodi Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain yn adlewyrchu anghenion y gymuned Fyddar.
- Dylid trin rôl y Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain fel penodiad cyhoeddus, gan gynnwys gwaith craffu cyn penodi gan y Senedd.
- Dylid egluro’r opsiynau ar gyfer gwneud cwyn sydd ar gael i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain pan nad yw gwasanaethau'n cyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil hwn.
- Dylai canllawiau ar lwybrau cwyno fod yn ofynnol, gan gynnwys gwaith ymgynghori â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Dylid gosod dyletswydd ffurfiol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain Byddar ar y strategaeth a'r canllawiau cenedlaethol.
- Dylid cyflymu’r gwaith i gynyddu nifer y dehonglwyr BSL sydd yn y gweithlu, gyda thargedau a therfynau amser clir.
Trafodaethau’r Pwyllgor Cyllid ar y Bil
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi nod y Bil, sef gwella gwasanaethau i bobl Fyddar, ac yn canmol y cydweithio rhwng yr Aelod sy'n Gyfrifol a Llywodraeth Cymru.
Er ei fod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r gwaith dadansoddi a wnaed o ran y costau, mae’r Pwyllgor yn nodi’r canlynol:
- Mae’n bosibl bod rhai o’r costau wedi'u goramcangyfrif.
- Mae’r costau i gyrff cyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur.
Argymhellion y Pwyllgor Cyllid
- Dylid egluro sut mae’r gwariant cyfredol ar Iaith Arwyddion Prydain yn cysylltu â'r Bil.
- Dylid sicrhau mwy o eglurder ynghylch y costau ychwanegol i gyrff cyhoeddus.
- Dylid edrych ar fuddion posibl, yn ogystal â chostau.
- Dylid adolygu'r costau a'r buddion gwirioneddol ar ôl i'r Bil gael ei roi ar waith yn erbyn yr amcangyfrifon gwreiddiol sydd wedi’u nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Ar y cyfan, mae'r Pwyllgor yn gweld y Bil fel buddsoddiad mewn hygyrchedd a chynhwysiant ond mae am weld rhagor o dryloywder a chynllun i wirio costau yn ddiweddarach.
Trafodaethau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil
Adolygodd y Pwyllgor y Bil er mwyn gwirio ei ansawdd, gwirio a oes gan y Senedd y pŵer i'w basio, a gwirio a oes angen Bil i gyflawni’r amcanion polisi dan sylw.
Edrychodd ar y manylion sydd wedi'u cynnwys yn y Bil ei hun, a’r manylion a fyddai'n cael eu nodi'n ddiweddarach mewn is-ddeddfwriaeth.
Rhoddodd y Pwyllgor gefnogaeth i’r Bil, gan awgrymu un mân welliant yn unig.
Tynnodd sylw at bwysigrwydd gwneud gwaith craffu yn y dyfodol ar y canllawiau a fydd yn cyd-fynd â'r Bil, gan y bydd llawer o'r gwaith polisi yn cael ei gyflawni drwy'r cynllun Iaith Arwyddion Prydain cenedlaethol a’r canllawiau ategol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan y pwyllgor polisi perthnasol yn y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor fod y gofynion adrodd yn y Bil yn gymesur, ac y byddant yn sicrhau bod modd dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif mewn achos o berfformiad gwael.
Camau Nesaf
Mae dadl Cyfnod 1 wedi'i threfnu ar gyfer 17 Rhagfyr 2025 lle bydd y Senedd gyfan yn trafod argymhellion y Pwyllgorau ac yn penderfynu a ddylid eu derbyn.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 2. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd yng Nghyfnod 2 mewn fideo arall.
Gweler yr adroddiadau
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 ar yr egwyddorion cyffredinol
Y Pwyllgor Cyllid:
Goblygiadau Ariannol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:
Adroddiad ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)