Blog Gwadd - Aelodau o dîm Allgymorth y Cynulliad yn datblygu eu sgiliau hwyluso

Cyhoeddwyd 09/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2014

Outreach Blog Photo Yn ddiweddar, cymerodd staff o dîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ran mewn cwrs tri diwrnod ar sgiliau hwyluso, a ddarparwyd gan Cyfranogaeth Cymru ac sy'n cael ei achredu gan Agored Cymru. Roedd y cyfranogwyr eisoes yn adnabod ei gilydd, felly roedd awyrgylch da gyda llawer o egni o'r cychwyn cyntaf. Roedd y cyfranogwyr eisoes yn meddu ar lefel uchel o sgiliau a phrofiad o ran hwyluso, felly fy her i fel hyfforddwr oedd sicrhau bod y cwrs yn ychwanegu at hyn. Mae'r cwrs yn rhoi fframwaith damcaniaethol i waith hwyluso. Mae hyn yn helpu cyfranogwyr i fyfyrio ar eu cryfderau, i nodi meysydd i'w gwella, ac i leoli eu harddull hwyluso eu hunain mewn cyd-destun ehangach. Yn fwy na dim, mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol a hyder. Mae'n rhyngweithiol iawn, gyda llawer o gyfleoedd i ymarfer sgiliau a thechnegau. Un agwedd arbennig o'r cwrs yw'r technegau cyfranogi sy'n tarddu o'r byd sy'n datblygu; mae'r rhain yn hawdd i'w defnyddio ac yn ddigon hyblyg i'w cymhwyso i lawer o wahanol sefyllfaoedd a dibenion. Mae'r sgiliau a'r technegau yn ddefnyddiol mewn unrhyw leoliad lle mae hwylusydd yn gweithio gyda grŵp o bobl; o ddigwyddiadau cyhoeddus sy'n cynnwys nifer fawr o bobl i gyfarfodydd staff bach. Gellir defnyddio'r technegau mewn llawer o wahanol ffyrdd, er enghraifft i roi strwythur i'r drafodaeth, i ennyn barn cyfranogwyr, i fesur barn ansoddol, neu i roi egni i'r drafodaeth. Mae'r trydydd diwrnod, sy'n cael ei gynnal sawl wythnos ar ôl y ddau ddiwrnod cyntaf, yn galluogi cyfranogwyr i ddangos yr hyn y maent wedi'i ddysgu drwy gyflwyno sesiwn wedi'i hwyluso sy'n para am 25 munud. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r trydydd diwrnod yn dda pan gyrhaeddodd yr aelodau cyntaf o'r grŵp a dechrau dweud wrthyf sut roeddent eisoes wedi defnyddio gwahanol dechnegau yn eu gwaith! Yn ystod y cyflwyniadau, dangosodd y cyfranogwyr eu bod yn gallu defnyddio'r technegau yn briodol ac yn fedrus. Fe wnaethon nhw ddangos ymarferion continwwm gwerth, trafodaethau am restru a thechnegau pleidleisio, gan gynnwys matricsau mwy cymhleth sy'n caniatáu i'r grŵp werthuso dewisiadau yn erbyn mwy nag un maen prawf. Roedd nifer o'r cyfranogwyr wedi addasu'r technegau. Er enghraifft, roedd un wedi troi'r dechneg "targed" yn ddull mwy cymhleth o asesu canfyddiad pobl am eu hunaniaeth ddiwylliannol. Roedd hefyd yn dda gweld cyfranogwyr yn cymhwyso gwersi syml yn hyderus, er enghraifft drwy ddefnyddio delwedd bwerus i gynyddu ymgysylltiad mewn sesiwn trafod syniadau, neu drwy greu techneg egnïol greadigol i ddechrau sesiwn. Nid oes un ffordd gywir o hwyluso sesiwn, felly roedd hefyd yn dda gweld cyfranogwyr yn cymhwyso eu harddulliau gwahanol yn hyderus. Roedd hwn yn grŵp gwych i weithio ag ef, ac roedd y cyflwyniadau yn dangos yn glir eu bod nhw i gyd yn hwyluswyr cymwys iawn. Alain Thomas Cyfranogaeth Cymru