Blog gwadd - Ymweliad y Pwyllgor Deisebau ag Ysgol Uwchradd Prestatyn

Cyhoeddwyd 26/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2013

Ysgrifennwyd gan Daisy Major - disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Ddydd Llun 11 Tachwedd, bu i aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymweld â’r ysgol. Siaradodd rhai disgyblion â’r Aelodau Cynulliad am ddeiseb ynghylch recriwtio i’r fyddin. Fel uwch ddisgybl, cefais wahoddiad i arsylwi’r cyfarfod a gynhaliwyd yn y llyfrgell. Gyda’r disgyblion eraill a oedd yn cymryd rhan, gwnaethom wrando ar y Pwyllgor yn trafod deisebau o dan ystyriaeth a deisebau newydd gan ddeisebwyr. Roedd y diwrnod yn ddiddorol, gan fod gennyf ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd oherwydd dysgais am y problemau y mae rhai rhannau o’r wlad yn eu hwynebu. Teimlaf hefyd, pe bai rhywbeth yn bod yn fy ardal i, gallwn siarad gerbron y Pwyllgor Deisebau a gwneud cais iddo gael ei newid. Y rhan mwyaf diddorol yn fy marn i oedd pan ddaeth y deisebwyr i mewn i siarad am broblemau a oedd ganddynt mewn perthynas ag ysbytai. Roedd yn hynod o ddiddorol clywed am faterion yn ymwneud ag ambiwlansys, a’r ffaith na ellir sicrhau gwasanaeth o fewn yr awr aur (yr awr gyntaf wedi’r anaf, pryd y gellir rhoi’r driniaeth fwyaf effeithiol) yn eu cymuned hwy gan ei bod yn cymryd mor hir i’r ambiwlansys eu cyrraedd ar ôl galwad 999. Deiseb olaf y diwrnod oedd ‘Atal recriwtio i’r fyddin mewn ysgolion’. Cawsom ein gwahodd gan Gadeirydd y Pwyllgor i roi tystiolaeth am y mater hwn, os oedd gennym farn. Wedyn, trafododd aelodau’r Pwyllgor y ffaith eu bod yn credu mai’r fyddin yw’r unig wasanaeth cyhoeddus sy’n cael mynediad i ysgolion. Cynigiais wybodaeth am sut y mae gwasanaethau cyhoeddus eraill wedi cael mynediad i’n hysgol ni, gan gynnwys yn ystod diwrnod gyrfaoedd a diwrnod ‘Crucial Crew’, pan gafwyd cyfle i gwrdd â gweithwyr o nifer o wahanol sefydliadau’r sector gyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaeth tân. Mwynheais y cyfle i siarad a lleisio fy marn, gan fy mod wedi gwylio dadleuon a chyfarfodydd y Llywodraeth o’r blaen ar ymweliadau â’r Cynulliad a’r Senedd Ewropeaidd. Mwynheais fod yn rhan o gyfarfod ac rwy’n gwerthfawrogi'r cyfle yn fawr iawn.