Cyhoeddwyd 18/11/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Ar 14 Tachwedd 2014, cyhoeddwyd ein
Hadroddiad Cyfnod 1 ar y Bil a gwnaethom 12 o argymhellion i'r Gweinidog sy'n atgyfnerthu'r Bil yn ein barn ni.
Er bod cefnogaeth gref i'r angen am y Bil a'i brif amcanion, roedd llawer o ymatebwyr yn pryderu ynghylch ei gynnwys.
Roedd ein prif bryderon fel a ganlyn:
- yr angen i sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hawl i gael gwasanaethau;
- pwysigrwydd addysg;
- hawliau plant a phobl ifanc; a
- rôl a chyfrifoldebau'r Cynghorydd Gweinidogol.
Rydym yn credu y dylai'r Bil gael fframwaith sy'n seiliedig ar hawliau er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n dioddef o drais a cham-drin mewn cyd-destun domestig hawl i gael gafael ar wasanaethau. Gwnaethom argymell y dylai'r Bil gyfeirio at "Drais yn Erbyn Menywod" yn hytrach na "Thrais ar Sail Rhywedd" gan inni deimlo ei bod yn bwysig cydnabod y ffaith bod trais a cham-drin domestig yn effeithio'n anghymesur ar fenywod. Fodd bynnag, gwnaethom nodi'n glir na ddylai hynny atal dioddefwyr sy'n ddynion rhag cael gafael ar wasanaethau.
Un o'r materion eraill a oedd yn peri pryder inni oedd y diffyg cynigion addysg yn y Bil, o ystyried mai addysg yw un o'r ffyrdd mwyaf hanfodol o atal trais ar sail rhywedd. Gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog ei gwneud yn orfodol i ysgolion ddarparu rhaglenni addysg ynghylch perthnasau iach sy'n briodol i oedran y disgyblion. Roeddem yn pryderu hefyd am y diffyg pwyslais ar anghenion penodol plant a phobl ifanc sy'n wynebu risg o gam-drin domestig, neu sy'n dioddef ohono, a dylid mynd i'r afael â hyn yn ein barn ni.
Bydd rôl y Cynghorydd Gweinidogol yn allweddol wrth ddarparu arweiniad cryf i gyflawni amcanion y Bil, ond mae'n rôl a ddylai fod yn annibynnol ar y Llywodraeth yn ein barn ni, a dylid newid ei theitl i adlewyrchu ei statws hyd braich.
Yn fuan, cynhelir dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn lle gofynnir i'r Cynulliad a yw'n cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf