Brexit yng Nghymru - Cyllid yr UE, Ymchwil a Buddsoddi

Cyhoeddwyd 07/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2016

Wythnos yma, canolbwytiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar gyllid yr UE, ymchwil a buddosddi a’r goblygiadau i Gymru. Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV. Amcanion y sesiwn oedd ystyried:
  • y goblygiadau i Gymru wrth i'r DU adael yr UE, o safbwynt y gallu i fanteisio ar nifer o ffynonellau cyllid allweddol yr UE;
  • yr effaith bosibl ar addysg uwch yng Nghymru;
  • deall y goblygiadau a'r effeithiau posibl ar y cyfleoedd i fanteisio ar gyllid ar gyfer datblygiadau seilwaith allweddol yng Nghymru.
Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.

Diweddariad

Ar 2 Hydref, rhoddodd Prif Weinidog y DU araith ar Brexit yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol a chwmpasodd nifer o faterion:
  • Erthygl 50: bydd Llywodraeth y DU yn ysgogi hyn dim hwyrach na diwedd mis Mawrth 2017. Ni fydd y Llywodraeth yn ymgynghori gyda Senedd y DU wrth wneud hyn, gan fynnu hawl yr Uchelfraint Frenhinol, ac y bydd Llywodraeth y DU yn amddiffyn ei sefyllfa yn y llysoedd.
  • Y Bil Diddymu: i’w gyflwyno yn araith y Frenhines, bydd y Bil yn dileu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 o’r llyfr statud a chynnwys pob cyfraith yr UE sydd eisoes yn bodoli mewn i gyfraith Prydain.
  • Rheolaeth dros fewnfudo: bydd y DU yn penderfynu rheolau ei hun ar fewnfudo ar ymadael â’r UE.
  • Hawliau gweithwyr: Ymrwymodd y Prif Weinidog i warchod hawliau gweithwyr presennol swydd wedi’u hymgorffori o dan gyfraith yr UE ac i wella'r rhain ymhellach.
  • Dim eithriadau, un Deyrnas Unedig: bydd trafodaethau Brexit yn cael ei roi ar waith fel y DU ac fel un Deyrnas Unedig - ni fydd unrhyw eithriad i Brexit a dywedodd y Prif Weinidog ‘Fydda i byth yn caniatáu cenedlaetholwyr rhwygol i danseilio ein Hundeb gwerthfawr rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig”.
  • Dim atgynhyrchu modelau: Ni fydd trafodaethau gyda’r UE am gopïo model - Norwy neu’r Swistir. Bydd y ffocws ar fasnach rydd, mewn nwyddau a gwasanaethau wedi’u hanelu at roi'r rhyddid mwyaf i gwmnïau Prydeinig i fasnachu gydag a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un fath yn y DU.
 

Cyllid yr UE

Mae Cymru yn parhau, ac yn gymwys i gael cymryd rhan yn rhaglenni'r UE ac ariannu nes bod y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n cael swm sylweddol o arian gan yr UE. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru ymchwil, cyn y refferendwm ar yr UE, a oedd yn awgrymu bod Cymru - yn wahanol i'r DU cyfan - yn cael budd net o gronfeydd yr UE.

Dyma rhai o’r cronfeydd perthnasol i arian yr UE i Gymru: 

- Cronfeydd Strwythurol: o dan rownd bresennol 2014-2020, dyrannwyd bron £2 biliwn i Gymru gan yr UE - gydag £1.6 biliwn i Orllewin Cymru a'r Cymoedd a thros £325 miliwn i Ddwyrain Cymru. - Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: o dan y cylch 2014-2020, mae Cymru'n derbyn tua £250 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €655 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020. - Horizon 2020: dyma raglen yr UE i gefnogi ymchwil a datblygu ac arloesi. Hyd at fis Mai 2016, roedd Cymru wedi sicrhau tua €45 miliwn o gyllid Horizon 2020 ar gyfer 95 o brosiectau, gan gynnwys tua €10 miliwn ar gyfer Menter COFUND, gydag addysg uwch Cymru yn cyfrif am tua €28.5 miliwn o'r cyfanswm hwn. - Erasmus+: rhaglen yr UE i gefnogi symudedd ym maes addysg a hyfforddiant. Mae hyn yncynnwys symudedd mewn addysg uwch ar gyfer myfyrwyr a staff, sy'n flaenoriaeth uchel i brifysgolion Cymru. Mae hefyd yn cynnwys symudedd mewn mathau eraill o addysg: addysg bellach, hyfforddiant galwedigaethol ac addysg ysgol, yn ogystal ag ymgysylltiad â phobl ifanc. Mae'r rhain yn feysydd y mae Cymru yn draddodiadol wedi cymryd rhan weithgar ynddynt.

Cyfleoedd i fanteisio ar gyllid yr UE ar ôl gadael

O gofio bod gwledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau o'r UE yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni'r UE, bydd diddordeb cryf yn y trafodaethau mewn ystyried (i) a fydd Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i'r gallu i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni'r UE ar ôl gadael a (ii) os ydyw, pa feysydd fydd ar ei rhestr flaenoriaeth. Dylid rhoi ystyriaeth i rôl Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad o ran nodi pa raglenni fyddai o'r diddordeb mwyaf i randdeiliaid yng Nghymru a lobïo Llywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i'r rhain yn ei thrafodaethau. Yr hyn y gallwn fod yn eithaf sicr yn ei gylch yw na fydd Cymru yn gallu cael cymorth gan raglenni'r Cronfeydd Strwythurol a reolir yn rhanbarthol na thrwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (gan gynnwys, wrth gwrs, y Rhaglen Datblygu Gwledig).  

Llywodraeth y DU: Diweddariad gwarant cyllid gan yr UE

Ar 3 Hydref cyhoeddodd Canghellor y DU, Philip Hammond AS gwarant Llywodraeth y DU wedi'i ddiweddaru i gefnogi prosiectau sy'n derbyn cyllid o dan y cylch cyfredol o raglenni'r UE. Roedd datganiad Hydref yn ymestyn y terfyn amser gwreiddiol i 'y pwynt y bydd y DU yn gadael yr UE', yn dilyn pwysau gan y Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ar gyfer ymestyn y dyddiad cau. Mae datganiad yr Hydref yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU:
  • gwarantu cyllid yr UE ar gyfer cronfeydd strwythurol a phrosiectau buddsoddiad, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd, wedi'i lofnodi ar ôl y datganiad yr hydref a fydd yn parhau ar ôl inni adael yr UE.
  • bydd amodau hyn yn cael eu cymhwyso yn y fath modd nad ydynt yn amharu ar brosiectau sydd wedi’u hymrwymo, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd i ddechrau ym mis Ionawr.
  • lle mae'r gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno i brosiectau gronfa strwythurol a buddsoddi o dan eu dyraniad cyllideb yr UE presennol cyn Brexit, bydd y Llywodraeth yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.
Mae’r cyfeiriadau penodol at gynlluniau amaeth-amgylchedd sydd yn dechrau ym mis Ionawr yn lleddfu pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru am yr ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y rhain.

Addysg Uwch

Ceir cefnogaeth gyson a chryf gan sector addysg uwch Cymru dros barhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus +. Gwelir y ddwy raglen yn elfennau pwysig o agwedd ryngwladol ac allblyg y sector. Hefyd, roedd gallu academyddion i symud swyddi o fewn yr UE yn rhydd gwerthfawr iawn. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sector addysg uwch Cymru wedi nodi bod diffyg ariannu capasiti ymchwil yng Nghymru yn rhwystr sylweddol i lwyddiant Cymru yn Horizon 2020. Yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Arweinyddiaeth adroddiad sy'n nodi prinder o oddeutu 600 o ymchwilwyr yng Nghymru. Mae addysg uwch Cymru wedi tanlinellu pwysigrwydd cyllid yr UE i'r sector, gyda Chronfeydd Strwythurol yr UE yn cael eu gweld fel ffynhonnell bwysig i helpu i 'lenwi' y bwlch cyllido, a galluogi buddsoddiadau allweddol na fyddai wedi digwydd fel arall. Mae Campws Gwyddoniaeth Bae Abertawe yn enghraifft dda o hyn, gan gyfuno Cronfeydd Strwythurol yr UE gyda chyllid Banc Buddsoddi Ewrop.

Myfyrwyr o'r UE ac addysg uwch Cymru

Dengys data yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) fod 7,095 o fyfyrwyr o'r UE wedi'u cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2013/14 (cynnydd o 4% o'i gymharu â 2012/13). Roedd y rhan fwyaf yn dod o'r Almaen (18%), Ffrainc (13%), y DU yn hanu o'r UE (11%), Sbaen ac Iwerddon (8% yr un), Gwlad Groeg (7%), Gwlad Pwyl (6%), yr Eidal a Bwlgaria (4% yr un), a Rwmania (3%). O ran y pynciau mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yr UE yng Nghymru, roedd y cofrestriadau fel a ganlyn:
  • Busnes a rheoli - 1,105
  • Dyniaethau - 1,691
  • Peirianneg a thechnoleg - 988
  • Gwyddoniaeth - 926
  • Gwyddorau cymdeithasol – 688
Amcangyfrifir bod myfyrwyr yr UE yn darparu o leiaf £24m i brifysgolion Cymru ar hyn o bryd, ac mai'r effaith gyffredinol i Gymru y gellir ei phriodoli i incwm o fyfyrwyr yr UE oedd £47m. Ar gyfartaledd, mae myfyriwr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru yn cynhyrchu £19,700 ar gyfer Cymru, £9,800 o werth ychwanegol gros Cymru a 0.19 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Hefyd, ceir effaith ychwanegol yng ngweddill y DU o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru. Mae hwn yn debygol o fod yn amcangyfrif ceidwadol yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Buddsoddiad yr UE yng Nghymru Banc Buddsoddi Ewrop yw banc yr Undeb Ewropeaidd, sy'n eiddo i'r Aelod-wladwriaethau ac yn cynrychioli eu buddiannau. Mae'r DU yn meddu ar gyfran o 16 y cant: yr un faint â'r Eidal, Ffrainc a'r Almaen. Er bod Banc Buddsoddi Ewrop yn buddsoddi y tu allan i'r UE, mae 90 y cant o fenthyciadau yn digwydd o fewn yr Undeb. Dros y degawd blaenorol, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi bron £2 biliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn dweud ei fod yn benthyca mwy nag erioed i'r DU ac yn cefnogi ystod fwy amrywiol o brosiectau na llawer o wledydd eraill yr UE. Yn dilyn ymadawiad o'r UE, ni fyddai rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n ymwneud â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop a gytunwyd eisoes yn y DU yn newid. Fodd bynnag, mae Erthygl 308 TFEU yn nodi “Members of the European Investment Bank “shall” (i.e. must) be Member States”. Felly, heb newid y Cytuniad, byddai gadael yr UE yn golygu na fyddai'r DU bellach yn aelod o Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae'r Banc yn ffynhonnell arall o gyllid y mae sefydliadau yng Nghymru yn gymwys i wneud cais iddi am gymorth. Roedd nifer o brosiectau yn llwyddiannus yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys, Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd y Bae ym Mhrifysgol Abertawe, a agorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2015, ac a gafodd fuddsoddiad o €60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Yn ystod 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru nifer o syniadau am brosiectau i gael cymorth o dan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strwythurol a reolir gan yr EIB, gan gynnwys prosiect Metro De Cymru.

Cyllid yr UE yng Nghymru yn dilyn gadael yr UE

Nid yw o reidrwydd yn wir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu na fyddai'r DU bellach yn cyfrannu at gyllideb yr UE, nac yn derbyn arian ohoni. Fel y trafodwyd yn y blogiau blaenorol ar fodelau amgen i aelodaeth o'r UE, mae gwledydd y tu allan i'r UE sydd ar hyn o bryd â mynediad helaeth at y Farchnad Sengl (fel Norwy a'r Swistir) yn cyfrannu at gyllideb yr UE ac yn cyfranogi i raddau yn ffrydiau cyllid yr UE. Mae Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn sicrhau cyfranogiad Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy mewn nifer o raglenni eraill yr UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ymchwil ac arloesi) ac 40 Erasmus+ (addysg a hyfforddiant). Er nad yw aelodau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyffredinol yn gymwys ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae Norwy a Liechtenstein yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Nid oes unrhyw wledydd o'r tu allan i'r UE yn rhan o'r PAC ar hyn o bryd. Yn y bôn, bydd mynediad y DU i raglenni ariannu'r UE yn y dyfodol – yn y cyfnod rhaglennu presennol (2014-2020) a thu hwnt – yn amodol ar drafodaethau yn ystod y broses i dynnu allan.

Camau nesaf

Wythnos nesa ar 10 Hydref, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y goblygiadau i Gymru o ran amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig hefyd yn edrych ar y goblygiadau hyn. Mae modd i chi rannu eich syniadau ar sut i fynd i'r afael â’r materion hyn ar ein tudalen dialogue. Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ddarllen ein blogiau ar fasnach a’r gyfraith ryngwladol a’r datblygiadau diweddaraf. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.