Chwiliwch am yr heulwen yn y glaw

Cyhoeddwyd 02/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/07/2019

Erthygl wadd gan Bleddyn Harris, Swyddog Datblygu a Hyfforddi Sefydliadol – Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant. Enfys Enw Bwa o liwiau sy’n weladwy yn yr awyr, a achosir gan blygiant a gwasgariad golau’r haul gan law neu ddiferion dŵr eraill yn yr atmosffer. Pan ddyluniodd Gilbert Baker y faner enfys, tybed a wnaeth erioed ddeall sut – ynghyd â bod yn brotest gwych ac aruchel yn erbyn y gwahaniaethu amhriodol yn erbyn cariad a hunaniaeth – y mae’n crynhoi’n berffaith profiad nifer o unigolion LGBTQ sydd wedi’i defnyddio fel tarian mewn byd y mae’n ymddangos nad yw eu heisiau nhw: heulwen a glaw, i gyd ar unwaith. Wrth feddwl am fod yn hoyw, rwy’n aml yn dod i’r casgliad mai hwn yw’r profiad mwyaf poenus ac iachusol yr wyf wedi’i brofi. Nid oherwydd bod bod yn hoyw yn brofiad poenus, ond mae wedi bod yn esgus i gymaint o bobl ei ddefnyddio pan fyddant wedi fy ngadael yn gignoeth ac wedi fy ninoethi, yn aml, ac yn baradocsaidd, yn enw ‘cariad’. Mae wedi bod yn gatalydd i bobl nad ydynt yn fy adnabod, na fyddant byth yn fy nghyfarfod, na fyddant byth yn fy nerbyn i, na fyddant byth yn fy ngharu, i alw i gael fy ngwneud yn anghyfreithlon, i ddileu fy hanes, i fod eisiau fy ngweld yn y carchar, i feddwl am roi cweir i mi, i fy atal rhag priodi, i fod eisiau i mi farw. Felly, nid yw’n fyd o ungyrn a breninesau drag i gyd. Dydw i ddim wir yn hoffi dweud bod bod fy ngwir hunan er gwaethaf y mathau o bobl rydw i wedi’u henwi uchod oherwydd rwy’n teimlo ei fod yn priodoli’r holl frwydrau yr wyf wedi gorfod eu hennill gyda fy hunan-barch a hunan-dderbyn i griw o bobl na fydd byth yn poeni… ond, ie, mae bod fy hun yn llwyr er gwaethaf y bobl hynny oherwydd rwyf eisiau iddyn nhw wybod na fyddaf yn gadael i’w rhagfarn fy rhwystro rhag byw fy mywyd yn llawn lliw a gyda’r cariad maent yn ceisio ei wadu i mi. Rwy’n gwybod, rwy’n gwybod, rwy’n rhygnu ymlaen am agweddau negyddol y profiad hwn, ond dim ond gan fy mod i’n credu bod y frwydr yn aml yn cael ei hanwybyddu gan y syniad bod y gymuned, yn benodol dynion hoyw, yn grŵp cyfunol o bobl feiddgar a lliwgar sy’n hapus i fod yn eofn a disglair a hardd yn eu ffordd eu hunain, waeth beth ddaw. Does dim trafodaeth mewn gwirionedd am y monologau mewnol, yr anawsterau, yr ofn sydd gennym pan fyddwn yn cerdded i lawr y stryd oherwydd ‘ydw i’n edrych yn rhy hoyw? Ydw i’n cerdded yn rhyfedd? Mae pobl yn edrych: Dylwn i roi’r gorau i ddal llaw fy mhartner’. Credaf fod y frwydr hon, yn ogystal â phrofiad personol a gwahanol pawb o fod yn rhan o’r gymuned LGBTQ, wedi’i chrynhoi mewn sgwrs a gefais gyda ffrind dros ginio: roedden ni’n siarad am sgwrs LGBT a welsom yng Ngŵyl y Gelli a oedd yn canolbwyntio ar Ymgyrch Stonewall a’r brwydrau yr ydym wedi eu hwynebu a’r llwyddiannau a roddwyd i’r gymuned – nodwch fod yr un hawl â’n cyfoedion heterorywiol a chydryweddol wedi cael ei rhoi i ni, sy’n golygu y gellir ei thynnu oddi arnom yr un mor hawdd. Arweiniodd y sgwrs at gwestiwn, sef a fydden ni’n cymryd pilsen er mwyn ein gwneud yn syth. Dywedais i ‘na’ heb oedi. Dywedodd fy ffrind y byddai’n cymryd y bilsen. Gofynnodd i mi pam y byddwn i’n dewis byw bywyd ar y cyrion o fod yn ‘normal’, bywyd o orfod edrych dros fy ysgwydd o hyd gan fy mod i’n cerdded/siarad mewn ffordd benodol, bywyd o deimlo bod pobl ond yn fy nioddef a ddim yn fy nerbyn yn llwyr. Fe wnes i ei atgoffa’n garedig bod angen weithiau edrych am yr heulwen yn y glaw a gwybod ein bod yn gallu byw’r bywyd yr oedd cymaint o bobl cyn ein hamser ni wedi marw yn breuddwydio amdano: mae eu gweddïau, eu cryfder, a’u gwrthryfela yn dal i’n hamddiffyn. Os ydych chi wedi llwyddo i aros gyda mi, hoffwn dalu teyrnged i’r rhai hynny a ddaeth o fy mlaen i na fyddaf byth yn gallu cyfarfod â nhw, na fyddaf byth yn gallu diolch iddynt. Mae gormod o’u henwau a’u straeon wedi mynd yn angof. Pam? Dydw i ddim yn gwybod. A yw cymdeithas yn ceisio dileu ein hanes? Mae’n bosib. A yw cymdeithas yn ceisio osgoi euogrwydd drwy beidio â sôn amdanynt? Efallai wir. A yw absenoldeb yr arwyr hyn yn dal i effeithio ar fywydau miloedd o unigolion LGBTQ sy’n dal i deimlo nad ydynt yn perthyn? Yn bendant. Beth bynnag ydyw, rwy’n galaru amdano. Rwy’n galaru am yr hanes, y balchder, y gelfyddyd, a’r doethineb sydd wedi marw gyda’r dynion hoyw, y lesbiaid, yr unigolion traws ac anneuaidd, pobl ddeurywiol, yr actifyddion, y cariadon, y meddylwyr, y bobl queer, y rhai a oedd yn caru gormod, y rhai wnaeth ymddiried gormod, y rhai wnaeth gamgymeriad gwirion ar noson allan oherwydd eu bod yn ceisio dianc rhag realiti creulon eu byd yn llawn casineb. Rwy’n ddig bod bywydau, cariadon a cholled y bobl hyn yn cael eu tanseilio yn gyson mewn gwledydd ledled y byd. Rwy’n ddig fy mod i’n dal yn anghyfreithlon mewn dros 70 o wledydd. Rwy’n ddig bod rhai yn protestio yn erbyn addysgu plant am wahanol fathau o deuluoedd. Rwy’n ddig bod pobl yn anwybyddu’r ffaith bod unigolion LGBTQ yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Rwy’n ddig bod pobl yn meddwl bod ein brwydr ni drosodd gan fod rhai deddfau wedi cael eu newid i’n hamddiffyn. Ond a fyddwn i’n cymryd pilsen er mwyn fy ngwneud i’n syth? Ddim o gwbl. Pe byddai’n rhaid i mi ei wneud eto, yna fe fyddwn i. Mi fuaswn i’n mynd drwy’r holl fwlio, y gwrthod, cael pobl yn dweud bod y diafol y tu mewn i mi y mae’n rhaid gweddïo i gael gwared arno, clywed y dylwn i farw, clywed nad ydw i’n deilwng, clywed nad yw Duw yn fy ngharu i, clywed na ddylwn i fod wedi cael fy ngeni, clywed y byddaf yn cael fy llosgi yn uffern, cael rhywun yn gofyn i mi adael yr eglwys, cael rhywun yn poeri arnaf ar nosweithiau allan, clywed nad ydw i’n ddyn go iawn, clywed na fyddaf i byth yn hapus, oherwydd mae derbyn fy hun a dysgu, bob dydd, i garu fy hun yn wyneb trallod wedi bod werth y cyfan. Nid wyf yn gwybod ble y byddwn i heddiw pe na bawn i’n ddigon dewr i dderbyn fy hun a gadael i fy hun garu er mwyn canfod pwy ydw i: dyn hoyw balch. Am y rhesymau hyn rwy’n gweithio yn y Cynulliad ac yn cymryd rhan weithgar yn rhwydwaith OutNAW: gyda staff mor agored gynhwysol ac amrywiol, roedd hi’n bwysig i mi weithio mewn lle sy’n ganolog i ddatblygiad Cymru sy’n arddangos y diwylliant sydd ei angen arnom i wneud yn siŵr nad yw unrhyw lais deurywiol yn mynd heb ei glywed, nad yw unrhyw unigolyn traws yn clywed na allant fod pwy ydyn nhw, nad yw unrhyw berson lesbaidd yn ei harddegau yn cael ei bwlio am fod yn hi ei hun, nad oes rhaid i unrhyw ddyn hoyw feddwl p’un a fyddent yn cymryd pilsen er mwyn bod yn syth. fflag enfys