Cyhoeddwyd 06/11/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2014
Ar 9 Hydref, ymunodd plant ysgol, cynghorwyr a thrigolion lleol â'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn i weld Prif Weinidog Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif.
Cyn y cyfarfod, bu cyfle i Aelodau'r Pwyllgor siarad â'r bobl ifanc ac eraill am y materion pwysig roedd y Pwyllgor yn eu trafod.
![Scrutiny of FM 1](/blogfilescy/2014/11/scrutiny-of-fm-1.png?w=611)
Yna, holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar faterion yn ymwneud â newid cyfansoddiadol yn dilyn y refferendwm ar Annibyniaeth yn yr Alban, yn ogystal â nifer o faterion lleol.
![Scrutiny of FM 2.png](/blogfilescy/2014/11/scrutiny-of-fm-2-png.jpg?w=611)
Gyda'u croeso cynnes a'u cacennau cri blasus, dangosodd staff gwirfoddol y ganolfan y math o letygarwch sy'n ategu cred rhai pobl mai 'West is best'.
Dyma aelodau o dîm y Pwyllgor yn paratoi ar gyfer y digwyddiad!
![Scrutiny of FM 3](/blogfilescy/2014/11/scrutiny-of-fm-3.jpg?w=611)
Yn ogystal â chwestiynau gan bedwar Aelod y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd drwy Twitter, yn ogystal â chan ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru.
Dyma Aelodau'r Pwyllgor gyda rhai o'r bobl a oedd yn bresennol ar y diwrnod.
![Scrutiny of FM 4](/blogfilescy/2014/11/scrutiny-of-fm-4.jpg?w=611)
Roedd hwn yn achlysur cofiadwy oedd yn arddangos y Cynulliad yn gweithio y tu allan i'r brifddinas, yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cynnwys cymunedau mewn sesiwn graffu agored a bywiog.