Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 06/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2014

Ar 9 Hydref, ymunodd plant ysgol, cynghorwyr a thrigolion lleol â'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn i weld Prif Weinidog Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif. Cyn y cyfarfod, bu cyfle i Aelodau'r Pwyllgor siarad â'r bobl ifanc ac eraill am y materion pwysig roedd y Pwyllgor yn eu trafod. Scrutiny of FM 1 Yna, holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar faterion yn ymwneud â newid cyfansoddiadol yn dilyn y refferendwm ar Annibyniaeth yn yr Alban, yn ogystal â nifer o faterion lleol. Scrutiny of FM 2.png Gyda'u croeso cynnes a'u cacennau cri blasus, dangosodd staff gwirfoddol y ganolfan y math o letygarwch sy'n ategu cred rhai pobl mai 'West is best'. Dyma aelodau o dîm y Pwyllgor yn paratoi ar gyfer y digwyddiad! Scrutiny of FM 3 Yn ogystal â chwestiynau gan bedwar Aelod y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd drwy Twitter, yn ogystal â chan ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru. Dyma Aelodau'r Pwyllgor gyda rhai o'r bobl a oedd yn bresennol ar y diwrnod. Scrutiny of FM 4 Roedd hwn yn achlysur cofiadwy oedd yn arddangos y Cynulliad yn gweithio y tu allan i'r brifddinas, yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cynnwys cymunedau mewn sesiwn graffu agored a bywiog.