Cwrdd â’r tîm: Swyddogion Diogelwch

Cyhoeddwyd 16/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/04/2019

Mae ein Swyddogion Diogelwch yn gyfrifol am ddiogelwch pawb sy’n ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gweithio yma.  Dyma rai ohonynt yn siarad am y rôl...

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Shazad

Shahzad, Swyddog Diogelwch

"Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes Diogelwch ers chwe mis bellach. Rwyf wedi cael y profiadau mwyaf anhygoel a rhyfeddol.  Mae gallu gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol a bod yn aelod o’i staff yn anrhydedd ynddo'i hun ac destun balchder imi.

Mae amrywiaeth ac ethos amlddiwylliannol yn werthoedd craidd i’r Cynulliad Cenedlaethol . Rwyf wedi gweld plant ysgol lleol o Gymru, elusennau, gwahanol gefndiroedd ethnig a sefydliadau o bob cefndir yn fy swydd fel Swyddog Diogelwch. O bobl leol o’r Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Mwslimaidd i'r Gymdeithas Awtistiaeth i’r fforwm menywod lleol i enwi dim ond rhai. Teimlaf fod gennym gymaint i'w gynnig yn ein hadeiladau eiconig sef Tŷ Hywel, y Senedd a'r Pierhead. 

Mae diwylliannau lleol a'r cyhoedd yn gyffredinol o bob cefndir yn ymweld â ni bob dydd ac rydym yn gymaint o arwydd o obaith a ffyniant. Yn ystod y chwe mis diwethaf rwyf wedi gweld newid cadarnhaol ynof fy hun ac rwyf wedi ffynnu o ran gwydnwch i ymrwymiad a’r gallu i addasu yn ôl anghenion a gofynion busnes. Rwyf wedi datblygu ynof fy hun ac mae pob dydd yn broses o ddysgu.

Rwyf yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd ac wedi bod ar nifer o gyrsiau.  Mae cymaint o gyfleoedd i wella sgiliau a datblygu o fewn fy swydd.  Rwyf hefyd yn gallu rhoi amser i’m teulu oherwydd gwahanol batrymau gwaith a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  Teimlaf fod y gallu i siarad gwahanol dafodieithoedd o gefndir Asiaidd, a’r llawenydd y mae'n ei roi i'r cyhoedd a minnau, yn ddefnyddiol iawn.  Dim ond tra fy mod yn gweithio i’r Cynulliad Cenedlaethol y buhyn yn bosibl.

Mae'r diwylliant cadarnhaol a'r agwedd broffesiynol gyfeillgar, ynghyd â gwaith caled, wrth wraidd yr hyn a wnawn ym maes Diogelwch. Felly rydym yn gadarn ond mewn cysylltiad â'n gwasanaeth cwsmeriaid ar yr un pryd, gan gadw at gôd proffesiynol bob amser.

Y cymorth personol yr wyf yn ei gael yw'r gorau yr wyf wedi'i weld yn fy ngyrfa gyfan.  Mae'r gefnogaeth a'r cymorth a gaf gan fy nghydweithwyr, fy rheolwyr a’m huwch reolwyr wedi bod yn wych. Rwy'n falch o fod yn rhan o dîm Diogelwch y Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at yrfa hir."


Chris

Chris, Swyddog Diogelwch

“Mae fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Diogelwch yn amrywio o ddydd i ddydd.  Mae'n rôl heriol sy'n gofyn am wyliadwriaeth a pwyll cyson sy'n anodd ond yn werth chweil. Mae gwaith tîm yn amlwg yn yr adran bob dydd, ac mae yno gysondeb sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'n wych gweithio ochr yn ochr â'r heddlu ac asiantaethau allanol i gynnal lles yr holl ymwelwyr a staff ar ystâd y Cynulliad.

Mae amlder digwyddiadau a chylchdroi rolau yn gwneud bob dydd yn ddiddorol, o Gyfarfod Llawn wythnosol i'r Eisteddfod Genedlaethol, Cynghrair y Pencampwyr i ddathliadau’r Gamp Lawn.  Mae digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trwy gael mynediad i hyfforddiant neu gyrsiau ar y safle ac edrychaf ymlaen at ddatblygu fy rôl ymhellach yn y Cynulliad.”

Stacey

Stacey, Swyddog Diogelwch

"Mae gweithio fel rhan o'r tîm diogelwch yn swydd amrywiol ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Rydym yn cael y cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sefydliad cyfan ac ag aelodau o'r cyhoedd o bob cefndir. Rydym hefyd yn cael ymwneud â rheoli’r amgylchedd gwleidyddol yn y Cynulliad gan weithio'n agos gyda'r Aelodau eu hunain. Rydym yn gweithio patrwm sifft amrywiol sy'n well na gweithio’r un oriau gwaith dinod bob wythnos.

Mae elfen hyfforddi i’r swydd hefyd, sy'n annog y tîm i gael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, rheoli gwrthdaro a gweithdrefnau gwacáu i enwi dim ond rhai.

Rydym hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn digwyddiadau mawreddog fel digwyddiadau i groesawu tîm rygbi Cymru, Geraint Thomas a thimau Olympaidd Prydain Fawr.

Mae cyfle i fod yn rhan o ryw ddigwyddiad o hyd a’r amrywiaeth sydd ynghlwm â’r swydd sy'n ei gwneud mor ddiddorol."


Swyddogion Diogelwch yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, staff a phawb sy’n ymweld â’r Senedd, y Pierhead ac adeiladau Tŷ Hywel.  Rhaid iddynt allu darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf, ynghyd â’r sgiliau angenrheidiol i amddiffyn y bobl, yr eiddo a’r offer o fewn yr ystâd. 


Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio.