
Cyllido Addysg Uwch - Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwe-sgwrs â myfyrwyr
Cyhoeddwyd 09/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn trafod ffioedd dysgu a chyllid addysg uwch yng Nghymru. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, fe wnaeth y tîm allgymorth gyhoeddi arolwg a threfnu gwe-sgwrs.
Roedd yr arolwg yn gofyn i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru, ac o fewn 100 milltir i'r ffin â Lloegr, am eu barn am gyllido addysg uwch. Roedd hyn yn cynnwys ystyriaethau ariannol a wneir ganddynt cyn mynd i'r brifysgol, effaith y cynnydd mewn ffioedd dysgu yn Lloegr ac effaith grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru.
Cafwyd cyfanswm o dros 1,300 o ymatebion i'r arolwg gan fyfyrwyr ledled Cymru a Lloegr. Mae crynodeb o'r canlyniadau ar gael yma.
Yn ogystal â'r arolwg, cynhaliwyd dwy sgwrs gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid ym mis Tachwedd 2013. Roedd y sesiwn gyntaf yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghymru, ac roedd yr ail sesiwn yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Cafodd y sgwrs ei chynnal gan ddefnyddio Google Hangouts. Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal sgwrs o'r math hwn gydag aelodau o'r cyhoedd.
[caption id="attachment_350" align="alignnone" width="300"]
Aelod o'r pwyllgor Julie Morgan AC a Cadeirydd y pwyllgor Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan yn y gwe-sgwrs. [/caption]
Yn ymuno â'r cyfranogwyr roedd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, a Julie Morgan AC, Aelod o'r Pwyllgor, a oedd yn gofyn cwestiynau ac yn hwyluso'r ddadl. Ar ddiwedd y sesiwn, ysgrifennodd un o'r cyfranogwyr:
"Diolch yn fawr, gobeithio bod hwn wedi bod o werth a hoffwn glywed beth sydd yn digwydd o ganlyniad."
Mae trawsgrifiad llawn o'r drafodaeth wedi cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Gellir ei weld yma.
