Cyllido Addysg Uwch - Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwe-sgwrs â myfyrwyr

Cyhoeddwyd 09/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2014

Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn trafod ffioedd dysgu a chyllid addysg uwch yng Nghymru. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, fe wnaeth y tîm allgymorth gyhoeddi arolwg a threfnu gwe-sgwrs. Roedd yr arolwg yn gofyn i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru, ac o fewn 100 milltir i'r ffin â Lloegr, am eu barn am gyllido addysg uwch. Roedd hyn yn cynnwys ystyriaethau ariannol a wneir ganddynt cyn mynd i'r brifysgol, effaith y cynnydd mewn ffioedd dysgu yn Lloegr ac effaith grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru. Cafwyd cyfanswm o dros 1,300 o ymatebion i'r arolwg gan fyfyrwyr ledled Cymru a Lloegr. Mae crynodeb o'r canlyniadau ar gael yma. Yn ogystal â'r arolwg, cynhaliwyd dwy sgwrs gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid ym mis Tachwedd 2013. Roedd y sesiwn gyntaf yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghymru, ac roedd yr ail sesiwn yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Cafodd y sgwrs ei chynnal gan ddefnyddio Google Hangouts. Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal sgwrs o'r math hwn gydag aelodau o'r cyhoedd. [caption id="attachment_350" align="alignnone" width="300"]Aelod o'r pwyllgor Julie Morgan AC a Cadeirydd y pwyllgor Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan yn y gwe-sgwrs. Aelod o'r pwyllgor Julie Morgan AC a Cadeirydd y pwyllgor Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan yn y gwe-sgwrs. [/caption] Yn ymuno â'r cyfranogwyr roedd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, a Julie Morgan AC, Aelod o'r Pwyllgor, a oedd yn gofyn cwestiynau ac yn hwyluso'r ddadl. Ar ddiwedd y sesiwn, ysgrifennodd un o'r cyfranogwyr: "Diolch yn fawr, gobeithio bod hwn wedi bod o werth a hoffwn glywed beth sydd yn digwydd o ganlyniad." Mae trawsgrifiad llawn o'r drafodaeth wedi cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Gellir ei weld yma.