Cyngerdd rhad ac am ddim: Dewi Griffiths.

Cyhoeddwyd 06/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2012

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n falch o gyhoeddi perfformiad rhad ac am ddim gan Dewi Griffiths, y gitarydd o Gaerdydd a enillodd y gystadleuaeth unawd llinynnol yn Eisteddfod 2012, yn y Senedd ym mae Caerdydd. Fydd y perfformiad yn cymryd lle, yn y Senedd, rhwng 11 - 2 ar ddydd Sadwrn Awst 11. [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=WtRkIN0p_AA&feature=plcp] Amdano Dewi:  Cynhyrchodd ei albwm gyntaf, ‘Why Dewi Quit the Call Centre’ ym mis Medi 2010 a dywedodd Acoustic Magazine UK am yr albwm hwnnw: having passion and strong technical skill’. Ers hynny, mae Dewi Griffiths wedi chwarae ledled de Cymru yn ogystal â Llundain, Arkansas a Dulyn. Yn ystod ei yrfa fer mae wedi ymddangos ar S4C a nifer o orsafoedd radio, yn ogystal â chwarae ym Maes Awyr Caerdydd fel rhan o gystadleuaeth BmiBaby, Enterplanement. Mae Dewi’n defnyddio technegau tapio, offerynnau taro a slapio cydgordiol, wedi’i ddylanwadu gan Andy Mckee a John Butler, ac yn corffori ei awch am gerddoriaeth Sbaenaidd a chlasurol. Mae’r cerddor ifanc hwn yn sicr o greu argraff gyda pherfformiad ffres a gwreiddiol. Dewch draw i’r Senedd i weld Dewi ar waith. http://www.dewig.co.uk/