
Sut rydym yn sicrhau bod y Senedd yn gynaliadwy
Gwresogi
System gwresogi geothermig sy'n cael ei defnyddio i helpu i wresogi'r Senedd. Mae dŵr yn cael ei bwmpio 100 metr i lawr drwy 27 o dyllau turio lle mae gwres naturiol y ddaear yn ei dwymo. Yna, caiff y dŵr ei bwmpio yn ôl i help i yn ein system gwresogi. Cefnogir y broses hon gan boeler biomas sy'n defnyddio pren sy'n gynaliadwy o bob cwr o'r DU i ddarparu ffynhonnell tanwydd gymharol garbon niwtral. Ym misoedd twymaf y flwyddyn, mae'r system yn gweithio fel arall. Wrth i'r dŵr gael ei bwmpio i lawr, mae'r ddaear yn gweithredu fel dalfa gwres. Yna, bydd y dŵr oer yn cael ei bwmpio'n ôl i oeri'r adeilad.Casglu dŵr glaw

Ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig
Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae defnyddio llai o blastig yn fater byd-eang pwysig ac mae'r Cynulliad wedi ymrwymo i hyn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cwpanau coffi plastig ar ystâd y Cynulliad, tra'n ymrwymo i gael gwared â phlastigau tafladwy eraill dros y 6 mis nesaf lle bynnag y bo modd.Prif bwyntiau cynaliadwyedd y Senedd

- Dyfarnwyd safon ardderchog BREEAM i'r Senedd am ei nodweddion amgylcheddol yn y cyfnod dylunio.
- Caiff y Senedd ei gwresogi gan gyfuniad o bwmp gwres o'r ddaear a sglodion pren a geir yn gynaliadwy, gyda nwy wrth gefn.
- Mae'r pwmp gwres o'r ddaear yn y Senedd yn cynnwys 27 o dyllau turio wedi'u drilio 100m i'r ddaear - maent yn caniatáu i ni dynnu rhywfaint o wres ar ddiwedd yr haf, a gwrthdroi'r broses i helpu i oeri'r adeilad yn y gwanwyn.
- Mae'r system casglu dŵr glaw yn golygu bod angen prynu gwerth tua £40 o ddŵr o'r prif gyflenwad yn unig bob mis.
- Mae defnyddio'r system gwresogi biomas wedi arbed mwy na 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu cynhyrchu ers adeiladu'r Senedd.
- Mae'r Senedd yn cael ei hawyru'n naturiol; mae'r ffenestri'n agor eu hunain i newid tymheredd yr aer neu roi mwy o ocsigen i'r ystafelloedd.
- Mae'r cwfl ar do'r Senedd yn creu gwasgedd aer negyddol. Mae hyn yn caniatáu i awyr iach gael ei dynnu i fyny drwy'r adeilad, ac yn golygu nad oes angen ei oeri'n artiffisial yn ystod y misoedd cynhesach.
- Mae gosod goleuadau LED yn lle llawer o hen oleuadau'r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi arbed mwy na 50 tunnell o CO2.
- Mae'r ffaith bod llawer o wydr ac arwynebau adlewyrchol yn y Senedd yn golygu bod angen llai o oleuadau artiffisial. Os edrychwch i fyny pan fyddwch chi'n ymweld â'r Neuadd neu'r Oriel, ac mae'n eithaf tebygol y gwelwch fod y goleuadau i ffwrdd yn ystod y dydd.

Rydym wedi cael gwared â chwpanau coffi tafladwy, ac rydym yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy gan gynnwys biomas, pwmp gwres ddaearol, ac yn fuan yn newid i drydan tariff gwyrdd.[/caption] [caption id="attachment_3148" align="alignnone" width="1108"]

Rydym yn gosod pwyntiau codi cerbydau trydan yr wythnos hon, ac yn archwilio'r posibilrwydd o gar pwll trydan.[/caption] [caption id="attachment_3147" align="alignnone" width="1108"]

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno'r plastig tafladwy yn raddol lle bynnag y bo modd dros y 6 mis nesaf, a chompostio ein holl wastraff bwyd, gan gynnwys hynny o ddigwyddiadau.[/caption] Ymunwch â'r sgwrs yn ystod Awr Ddaear eleni gan ddefnyddio #AwryDdaear / #EarthHourWales a chadwch lygad am y diffodd byd-eang am 8.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr agweddau amgylcheddol ar waith y Cynulliad, ewch i dudalennau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG.