- Yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddatganiad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhannau parhaol o dirwedd gyfansoddiadol a gwleidyddol y DU;
- Yn cyflwyno model newydd o ddatganoli: model cadw pwerau (sy’n debyg i’r hyn sydd wedi’i sefydlu yn yr Alban);
- Yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn meysydd fel ynni, cynllunio, ffyrdd a phorthladdoedd;
- Yn rhoi i’r Cynulliad bwerau newydd dros ei drefniadau mewnol, trefniadol ac etholiadol ei hun;
- Yn sefydlu cysyniad tribiwnlysoedd Cymru a Llywydd tribiwnlysoedd Cymru.
Deddf Cymru 2017 - Pennod newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru
Cyhoeddwyd 12/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Bydd pwerau newydd yn cael eu rhoi i Gymru yn 2018, ond pa wahaniaeth y gallai hyn ei wneud i chi ac i fywyd yng Nghymru?
Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, mae datganoli yng Nghymru wedi bod drwy nifer o newidiadau (a bu cynifer o wahanol setliadau ag a fu o gampau llawn ym maes rygbi Cymru - cyfnod arbennig o lwyddiannus ym maes rygbi Cymru!). Cafodd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru eu gwahanu’n ffurfiol, cymerodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol, roedd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn mynd a dod, daeth y pŵer i basio Mesurau yn bŵer i basio Deddfau, a chafodd Cymru bwerau i godi trethi a benthyca arian.
Ar 31 Ionawr eleni, cafodd Deddf Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol, gan nodi dechrau cyfnod nesaf datganoli yng Nghymru. Beth yw goblygiadau hyn i Gymru?
Mae’r testun rhagarweiniol i’r Ddeddf yn ei disgrifio fel "Deddf i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2014 ac i wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac am dribiwnlysoedd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig". Goblygiadau hyn yn ymarferol yw bod y Ddeddf: