Cyhoeddwyd 12/12/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2017
Bydd pwerau newydd yn cael eu rhoi i Gymru yn 2018, ond pa wahaniaeth y gallai hyn ei wneud i chi ac i fywyd yng Nghymru?

Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, mae datganoli yng Nghymru wedi bod drwy nifer o newidiadau (a bu cynifer o wahanol setliadau ag a fu o gampau llawn ym maes rygbi Cymru - cyfnod arbennig o lwyddiannus ym maes rygbi Cymru!). Cafodd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru eu gwahanu’n ffurfiol, cymerodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol, roedd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn mynd a dod, daeth y pŵer i basio Mesurau yn bŵer i basio Deddfau, a chafodd Cymru bwerau i godi trethi a benthyca arian.
Ar 31 Ionawr eleni, cafodd
Deddf Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol, gan nodi dechrau cyfnod nesaf datganoli yng Nghymru. Beth yw goblygiadau hyn i Gymru?
Mae’r testun rhagarweiniol i’r Ddeddf yn ei disgrifio fel "Deddf i ddiwygio
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a
Deddf Cymru 2014 ac i wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac am dribiwnlysoedd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig". Goblygiadau hyn yn ymarferol yw bod y Ddeddf:
- Yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddatganiad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhannau parhaol o dirwedd gyfansoddiadol a gwleidyddol y DU;
- Yn cyflwyno model newydd o ddatganoli: model cadw pwerau (sy’n debyg i’r hyn sydd wedi’i sefydlu yn yr Alban);
- Yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn meysydd fel ynni, cynllunio, ffyrdd a phorthladdoedd;
- Yn rhoi i’r Cynulliad bwerau newydd dros ei drefniadau mewnol, trefniadol ac etholiadol ei hun;
- Yn sefydlu cysyniad tribiwnlysoedd Cymru a Llywydd tribiwnlysoedd Cymru.
Yn amlwg, bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o reolaeth i’r Cynulliad dros rai meysydd, yn arbennig etholiadau’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae hefyd yn cadw rheolaeth dros feysydd polisi eraill i San Steffan, gan gynnwys, yn arbennig, awdurdodaeth gyfreithiol Cymru.
Daw’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar y diwrnod penderfynwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sef ar
y Prif Ddiwrnod Penodedig, sef 1 Ebrill 2018. Bydd pwerau codi treth a ddarperir gan Ddeddf Cymru 2014 ddod i rym ar yr un diwrnod.
Felly pa newidiadau allwn ni eu disgwyl o ganlyniad i
Ddeddf Cymru 2017?
Yn naturiol, bydd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad am ddefnyddio pwerau newydd a gafwyd i ddeddfu i wella bywydau pobl yng Nghymru. Un posibilrwydd arall yw y gallai’r Cynulliad ei hun newid. Ym mis Tachwedd 2016,
cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’n bwrw ymlaen â gwaith i archwilio sut y gellid defnyddio’r pwerau newydd yn y Ddeddf i ddiwygio’r Cynulliad. Yna, cafwyd
cyhoeddiad ym mis Mehefin 2017, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, y byddai’r Comisiwn yn ceisio newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru.
Yn ychwanegol at hyn, mae
Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a gafodd y dasg o edrych ar nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, sut y dylid eu hethol, a’r hyn y dylai’r oedran pleidleisio isaf fod, wedi cyflwyno ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2018.
Darllenwch yr adroddiad yma.
Beth bynnag fydd canlyniad gwaith y Panel, mae’n amlwg bod cam nesaf datganoli yng Nghymru yn ddim ond megis dechrau.
Huw Gapper, Uwch Swyddog Newid Cyfansoddiadol