Digartref Ynys Môn yn ymweld â’r Senedd

Cyhoeddwyd 21/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/03/2014

Mae tîm Allgymorth Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn ddiweddar gyda Digartref Ynys Môn ar gyfres o weithdai i’w gyflwyno i grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a phwysigrwydd pleidleisio. Trefnwyd y gweithdai hyn ynghyd ag ymweliad i Bae Caerdydd. Ar ddydd Mercher 12 Mawrth 2014 bu i’r grŵp o Ddigartref Ynys Môn ymweld â Thŷ Hywel a’r Senedd ym Mae Caerdydd i ddysgu mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rôl eu haelodau Cynulliad lleol. Wrth gyrraedd Tŷ Hywel fu i’r grŵp gyfarfod gydag Aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i drafod materion tai presennol yn dilyn ymgynghoriad i’r Bil Tai (Cymru) arfaethedig. photo1 Dywedodd Mark Isherwood AC, Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru, “Rhaid inni chwalu’r rhwystrau rhwng pobl sy’n ddigartref, dan fygythiad o ddigartrefedd neu yr effeithir arnynt gan faterion digartref. Mi wnes i fwynhau cael cinio gyda’r bobl ifanc o Ddigartref Ynys Môn a ddaeth yma i ymweld â ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Dim ond drwy wrando arnynt a dysgu o’u profiadau y gallwn ddechrau mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau o’r problemau gyda’i gilydd wedi dod ar eu traws. Fel Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, byddwn yn falch i ddychwelyd yr ymweliad." Dywedodd yr aelod etholaeth dros Gaerdydd Canolog, Jenny Rathbone AC, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, "Yr oeddwn yn ddiolchgar bod y bobl ifanc hyn wedi dod yr holl ffordd o Ynys Môn i siarad â ni. Yr oedd gennyf ddiddordeb i glywed am eu cynlluniau hyfforddiant presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol a’u dyheadau gyrfa. Mae Digartref Ynys Môn yn gwneud gwych gwaith eu cefnogi a rhoi gobaith drwy adegau anodd iddyn nhw." Dilynwyd y cyfarfod gan ymweld â’r ganolfan addysg yn Nhŷ Hywel, ochr yn ochr â swyddog addysg, i gynnal dadl ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Daeth y grŵp i’r penderfyniad i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus am resymau fel colli arian i fusnesau ar y stryd fawr. photo2 Yna aeth y grŵp ymlaen i’r Senedd lle bu iddynt cyfarfod eu Aelod Cynulliad etholaethol, Rhun Ap Iorwerth AC. Digartref Mon Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Kirsty Akrill, gweithiwr llais cymunedol ar gyfer Digartref Ynys Môn, "Cafodd y grŵp amser gwych yn ystod yr ymweliad i’r Senedd.  Roedd yn gymorth i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut y mae'r system yn gweithio cyn yr ymweliad ac roedd y gweithdai a ddarperir gan y tîm allgymorth yn help mawr iawn.  Roedd mor hawdd siarad â’r holl Aelodau Cynulliad bu i ni gyfarfod ac roedden nhw yn gwrando ar safbwyntiau a phrofiadau'r bobl ifanc. Mae ein hyder yn y maes hwn wedi tyfu ac rwy'n teimlo y bydd yn gwneud yn haws iddynt gael dweud eu dweud ar yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy." Os hoffech chi fwy o fanylion am weithdai yn eich ardal chi ebostiwch ni ar: timallgymorth@cymru.gov.uk