Cyhoeddwyd 23/09/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Erthygl gan Emma Wilson, lleoliad profiad gwaith
Mae diwrnod dathlu deurywioldeb yn ddyddiad pwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb. Sefydlwyd y diwrnod ym 1999 gan yr ymgyrchwyr o'r Unol Daleithiau
BiNET er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeurywioldeb.
Nod y diwrnod yw addysgu'r cyhoedd ar faterion sydd o bwys i bobl ddeurywiol,
dileu rhagdybiaethau negyddol a rhoi terfyn ar wahaniaethu sy'n deillio o'r tu mewn i'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'r tu allan iddi.
Yn ôl erthygl ddiweddar gan
YouGov llai na hanner y bobl ifanc (18-24) a holwyd sy'n nodi eu bod yn 100% heterorywiol, gyda nifer fawr yn nodi eu bod ar y sbectrwm deurywiol.
Ceir effaith negyddol ar les cymdeithasol a meddyliol pobl ddeurywiol trwy wthio deurywioldeb i gyrion cymdeithas. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2012 bod 5% o ddynion deurywiol wedi ceisio cyflawni hunanladdiad mewn cyfnod o flwyddyn o'i gymharu â 0.4% o ddynion yn gyffredinol. Dyma pam mae diwrnodau fel y rhain yn eithriadol bwysig.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi cael ei restru'n bedwerydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a'i enwi'r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Gwnaethom ofyn i Mia Rees, arweinydd deurywioldeb ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol beth mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu iddi hi:
"Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’
Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro.
Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaeth rhywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?' - Beth allwn i’i ddweud?!
Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny.
I gael gwybod mwy am ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, cysylltwch â
Craig Stephenson.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr gefnogi aelodau staff deurywiol yn well, darllenwch ganllaw Stonewall
Bisexual people in the Workplace: Practical Advice for Employers
Mae rhagor o gefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer pobl ddeurywiol ar gael oddi wrth
BiCymru neu
Stonewall Cymru.

