Diwrnod Dathlu Deurywioldeb Dydd Gwener 23 Medi

Cyhoeddwyd 23/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

[caption id="attachment_1725" align="alignleft" width="134"]Mia Rees, Arweinydd materion Deurywioldeb Mia Rees, Arweinydd materion Deurywioldeb[/caption] Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o gefnogaeth i Ddiwrnod Dathlu Deurywioldeb. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi trydar yn dangos eu cefnogaeth i'r gymuned ddeurywiol, ac yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton, cafwyd fflachdorf yn dathlu deurywioldeb hyd yn oed! Daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n drydydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, Stonewall, ac rwy'n falch o weithio mewn sefydliad lle caiff amrywiaeth ei werthfawrogi, ei barchu a'i groesawu. Rydym oll yn gwybod fod pobl yn perfformio'n well pan fedrant ymddwyn yn naturiol, ac mae gweithio mewn amgylchedd cefnogol yn bwysig i bob un ohonom. Ar ôl yr etholiad, anfonais neges e-bost at yr holl Aelodau Cynulliad a'r Staff Cymorth sy'n gweithio i Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn holi a fyddai diddordeb ganddynt fod yn Gynghreiriaid i Rwydwaith LHDT OUT-NAW y Cynulliad. Roedd yr ymateb yn wych, ac roeddwn mor falch o weld aelodau o fy mhlaid fy hun yn cefnogi eu cydweithwyr. Erbyn hyn, mae gennym 140 o Gynghreiriaid yn y Cynulliad, sy'n dangos yr ymrwymiad cryf sydd gan y bobl sy'n gweithio yma i greu amgylchedd gweithio cynhwysol. Fodd bynnag, nid wyf wastad wedi gallu bod yn agored am fy rhywioldeb, ac rwyf wedi dod i arfer â chael pobl yn dweud wrthyf fy mod, fel menyw ddeurywiol, yn farus, yn chwilio am sylw gan ddynion neu wedi drysu'n lân. Nid yw hyd yn wir o gwbl. Pobl ddeurywiol yw'r gyfran fwyaf o'r gymuned LHDT, ond rydym yn aml yn cael ein diystyrru neu ein tangynrychioli. Yn syml, mae gan bobl ddeurywiol gyfeiriadedd rhywiol a/neu emosiynol tuag at bobl o fwy nag un rhywedd. Dyna ni. Rydym yn awyddus i weithio'n galed, symud ymlaen mewn bywyd a chael bod gyda'r person yr ydym yn eu caru. Rwy'n gwybod nad yw fy rhywioldeb yn effeithio ar fy ngwaith, ac felly ni ddylai effeithio ar y ffordd y mae fy nghydweithwyr yn fy nhrin i yn y gwaith. Mae Diwrnod Dathlu Deurywioldeb yn esgus perffaith i gael sgwrs a chofio ein bod ni oll yn ceisio gwneud ein swyddi hyd eithaf ein gallu, ac er fy mod yn ddeurywiol ac i hynny fod yn rhan o bwy ydw i, nid yw'n fy niffinio i na'r gwaith y gallaf ei wneud. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeurywioldeb, neu os ydych yn cael problemau gyda'ch rhywioldeb yn effeithio ar y ffordd mae eraill yn eich gweld chi yn y gwaith, peidiwch ag oedi i gysylltu â mi neu unrhyw un o'r tîm OUT-NAW - rydym yma i'ch cefnogi chi. Mia Rees (Mia.Rees@Cynulliad.Cymru) Arweinydd materion Deurywioldeb Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad