Diwrnod Gwelededd Deurywiol 2018

Cyhoeddwyd 22/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/09/2018

Gan Rhayna Mann Ugain mlynedd yn ôl roeddwn i newydd orffen yn y brifysgol, roeddwn i'n teithio, yn cael anturiaethau, yn cwrdd â phobl newydd ac yn dechrau ystyried fy nyfodol. Onid yw hynny'n swnio'n ddelfrydol? Yr ochr arall i'r stori hon yw fy mod i hefyd yn dod allan fel menyw ddeurywiol. Pam ydw i'n rhoi arlliw negyddol ar hynny? Oherwydd ei fod yn ddigwyddiad dryslyd a heriol na ddigwyddodd dros nos. Fel menyw ifanc, roeddwn i'n cael fy nenu i fenywod yn ogystal â dynion, ond yn tyfu i fyny mewn pentref cloddio bach yn y cymoedd, roedd y meddyliau hyn yn cael eu hystyried yn annaturiol. Roedd bod yn hoyw yn rhywbeth i wgu arno, ac roedd yn ofnus imi fel plentyn ifanc weld sut yr oedd rhai dynion hoyw (gan nad oedd dim menywod hoyw amlwg) yn cael eu hosgoi a'u trafod. Cefais fy magu yn meddwl bod rhywbeth o'i le gyda mi, ond parhaodd y teimladau a oedd gennyf tuag at ddynion a menywod. Erbyn imi fod yn ddeunaw oed, roedd y naratif cyhoeddus o ran pobl hoyw yn newid. Roedd yn iawn bod yn hoyw – cyn belled â'ch bod yn byw mewn dinas gosmopolitaidd neu'n enwog! Ond yr hyn a'm tarodd i fwyaf oedd y bobl a oedd yn hysbys yn y cyfryngau fel pobl ddeurywiol, fel David Bowie, Marlon Brando, James Dean, Freddie Mercury a Janis Joplin. Roeddwn i'n edrych i fyny at y bobl hyn, roeddwn nhw'n fy llenwi ag ysbrydoliaeth...ac roedden nhw'n ddeurywiol. Mae gallu uniaethu â rhywun y gallwch edrych i fyny iddo yn bwerus iawn. Yn ddeunaw oed mi ddes allan. Roedd yn ddigynnwrf iawn, ac roeddwn i ychydig yn siomedig. Ymatebodd fy ffrindiau gyda 'roeddwn i wedi amau' a gwnaethant barhau i fod yn ffrindiau imi. Fodd bynnag, dangosodd fy rhieni imi beth yw deuffobia goddefol; roedden nhw'n credu nad yw bod yn ddeurywiol yn rhywbeth go iawn ac yn ei wfftio fel ‘rhywbeth a fyddai'n pasio’. Digwyddodd fy ail brofiadau o ddeuffobia drwy gydol fy ugeiniau; wrth ddechrau perthynas newydd â dyn, roedden nhw'n aml yn gweld fy neurywioldeb yn fygythiad neu'n newyddbeth. Pan fyddwn i'n gweld menyw hoyw, byddwn i'n cael fy ystyried fel twyllwr. Fy mhrofiad olaf o ddeuffobia yw fy anallu parhaus i gadw rhai ffrindiau benywaidd. Rwyf wedi canfod yn bersonol fod rhai menywod syth yn ystyried menywod deurywiol yn fygythiad, a dyna un o’r pethau sydd wedi peri'r gofid mwyaf i fi. Fodd bynnag, unwaith i fi fod yn gyffyrddus gyda fy hunaniaeth, fe wnes i ganfod bod pobl eraill yn gyffyrddus hefyd gan fwyaf. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae agweddau cadarnhaol a chael fy nerbyn gan bobl wedi bod yn drech na’r profiadau negyddol. Wrth siarad â ffrindiau am rywioldeb, mae eu gonestrwydd a’u hiwmor wedi bod yn hyfryd ac wedi fy helpu i symud o fod yn fenyw ddeurywiol i fod yn fenyw... sy’n digwydd bod yn ddeurywiol. Ond y profiad mwyaf arwyddocaol yr wyf wedi'i gael oedd cael derbyniad cadarnhaol heb ragfarn gan fy mhlant hyfryd, fy ffrindiau, fy nheulu a'm cydweithwyr. Mae hyn wedi rhoi'r nerth imi fod yn hapus ac yn gyfforddus gyda phwy ydw i. Felly dyma ddathlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol. Beth am barhau i gwestiynu stereoteipiau a helpu i greu amgylchedd lle'r ydym yn cael cyfle i ffynnu ac esblygu i'r bobl yr ydym ni mewn gwirionedd. 2018-WEI-graphic-welsh Bi_flag 2018 top-employer-black-bilingual Out-Naw