Cyhoeddwyd 17/05/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Ross Davies
Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Bob blwyddyn ar 17 Mai, mae pobl ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia er mwyn dathlu amrywiaeth o hunaniaethau o ran rhywedd a chyfeiriadeddau rhywiol. Caiff y diwrnod ei ddefnyddio gan ymgyrchwyr i dynnu sylw llunwyr polisi, arweinwyr, y cyhoedd a'r cyfryngau at faterion pwysig er mwyn helpu i ymgyrchu yn erbyn casineb, rhagfarn a gwahaniaethu.
Mae'r ymgyrch yn rhoi llais i bobl sy'n wynebu cael eu hymyleiddio oherwydd nad ydynt yn cydymffurfio â naratif heteronormadol (y dybiaeth bod heterorywioldeb yn normal a bod unrhyw beth heblaw heterorywioldeb yn annormal) na naratif cydryweddol (pobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfateb i'r rhyw y mae cymdeithas yn ei neilltuo iddynt pan gawsant eu geni).
Mae llawer o'r materion a gaiff sylw ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia yn deillio o drin grŵp yn wahanol oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd, sy'n seiliedig, yn aml, ar ragfarn a stereoteipiau.
Er bod y duedd i siarad am y gymuned LHDT+ fel endid unigol, mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, am amrywiaeth pobl LHDT+ yn y gymuned a dathlu hynny.
Yn amlwg, nid yw pobl sydd â thueddiadau rhywiol lleiafrifol, gan gynnwys pobl sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, anrhywiol, panrywiol, neu amlrywiol, yn grŵp unffurf - mae oedran, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, anabledd, crefydd a llawer o nodweddion eraill yn sail i'w hunaniaeth.
Mae'r un peth yn wir ar gyfer pobl draws, y mae'r modd y maent yn cyfleu eu hunain yn mynd y tu hwnt i'w hunaniaeth o ran rhywedd. Efallai bod gan bobl ddealltwriaeth gul o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn draws, a hynny yw rhywun sy'n cael llawdriniaeth er mwyn ailbennu rhywedd. Ond mae'r union gysyniad o hunaniaeth draws yn llawn amrywiannau a gwahanol brofiadau - ceir dynion traws, menywod traws, pobl sy'n nodi eu hunain yn ryweddhylifol, pobl nad ydynt yn nodi eu hunain yn wrywaidd na benywaidd a phobl sy'n androgynaidd.
Yn yr un modd ag y mae person anabl yn fwy na'u hanabledd a bod person du yn fwy na dim ond lliw eu croen, ni all pobl LHDT+ gael eu cyfyngu i un categori hunaniaeth. Byddai gwneud hynny'n symleiddio pethau ac yn peryglu cynhyrchu fersiynau cul o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn LHDT+.
Gall meddu ar fwy nag un hunaniaeth olygu bod enghreifftiau gwahanol o wahaniaethu yn digwydd ar yr un pryd. Er enghraifft, efallai y bydd lesbiad hŷn yn wynebu gwahaniaethu ar sawl sail – fel menyw, fel person hŷn ac fel rhywun o gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol. Fodd bynnag, fel cyfuniad o bob un o'r nodweddion hyn, gallai lesbiad hŷn wynebu gwahaniaethu unigryw a chymhleth.
Rhaid inni gofio hefyd ei bod yn bwysig i bobl gael eu cydnabod yn amrywiol wrth beidio â gwadu'r hyn sy'n gyffredin rhyngddynt ychwaith, oherwydd y pethau hyn sy'n uno pobl wrth iddynt ddathlu 'Pride' neu ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl LHDT+, yn enwedig yn ystod digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.
Wrth gydnabod amrywiaeth yn y gymuned LHDT+, mae hefyd yn bwysig nodi y bydd gan wahanol grwpiau LHDT+ wahanol fodelau rôl. Dyma lincs ar gyfer rhai o'r modelau rôl a nodwyd ar gyfer rhai o'r grwpiau hyn gan Gymdeithas LGBTUA+ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Warwick.
Modelau rôl pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig LHDT+
Modelau rôl Pobl Anabl LHDT+
Modelau rôl Menywod LHDT+
Mae Stonewall hefyd wedi cynhyrchu
Lleisiau LHDT, casgliad o 25 o straeon gan bobl LHDT sydd wedi wynebu anghydraddoldeb.
Drwy gydnabod a gwerthfawrogi'r amrywiaeth sy'n bodoli o fewn y gymuned LHDT+, gallwn ddechrau gwerthfawrogi gwir drysori tapestri cyfoethog dynoliaeth, a bod y cysyniad o 'arall' yn gallu niweidio ein cymdeithas a'r unigolion o dan sylw.
Cynulliad Cynhwysol
Fel sefydliad cynhwysol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i herio trais a gwahaniaethu ac i hyrwyddo diwylliant o degwch, urddas a pharch. Rydym yn falch o fod wedi cael ein rhestru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob blwyddyn ers 2009, gan godi i'r trydydd safle ym Mynegai 2016. Cawsom ein henwi'n Brif Gyflogwr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf.
Mae OUT-NAW, ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle LHDT, sydd wedi ennill gwobrwyon am ei gwaith, yn cefnogi pobl LHDT ar draws y sefydliad drwy gefnogaeth cymheiriaid, mentora a hyfforddi. Mae'r rhwydwaith hefyd yn ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb LHDT ac i ystyried cydraddoldeb LHDT yn ein gwaith.
Os hoffech wybod rhagor am weithio i'r Cynulliad neu weld ein swyddi gwag cyfredol, ewch i
www.Cynulliad.Cymru/swyddi