Cyhoeddwyd 12/10/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Unwaith eto eleni, bydd Aelodau a staff y Cynulliad yn nodi
Diwrnod Shwmae/Su’mae gydag wythnos o weithgareddau. Bydd pawb yn cael eu hannog i gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’, a bydd taflenni a sticeri yn cael eu dosbarthu drwy’r adeilad i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod.

Bydd llawer o’r gweithgareddau yn cael eu hanelu at y nifer fawr o ddysgwyr yn y sefydliad. Yn wir, mae’r Cynulliad ar flaen y gad wrth ddarparu gwersi Cymraeg yn y gweithle. Mae tîm o dri thiwtor mewnol sy’n darparu gwersi ar bob lefel i Aelodau’r Cynulliad a’u staff ac i staff Comisiwn y Cynulliad.
Byddwch yn hyblyg o ran eich staff a’u hanghenion
Mae’r tîm yn gallu cynnig hyblygrwydd yn ei ddarpariaeth: yn ogystal â chynnig gwersi ffurfiol sy’n dilyn y gwerslyfrau arferol, mae hefyd yn gallu cynnig sesiynau un-i-un i ddysgwyr. Gall rhai o’r sesiynau hyn ganolbwyntio ar elfennau penodol megis ynganu neu loywi sgiliau siaradwyr Cymraeg rhugl. Cynhelir sesiynau penodol i wasanaethau cyfan o fewn y Cynulliad fel y gwasanaeth diogelwch neu’r gwasanaeth TGCh, gyda’r sesiynau yn cael eu teilwra i anghenion penodol y gwasanaethau hynny.
Hwyl yw’r nod!
Mae’r tîm hefyd yn trefnu digwyddiadau mwy anffurfiol o bryd i’w gilydd – er enghraifft, adeg Diwrnod Shwmae/Su’mae neu o amgylch Gŵyl Ddewi, trefnir cwis, helfa drysor ac ati. Yn ddiweddar, ffurfiwyd Côr y Cynulliad, a hynny’n rhannol er mwyn cynnig cyfle i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg.
Er mwyn sicrhau bod mwy o sgyrsiau yn dechrau’n Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, rydym yn darparu cortynnau gwddf iaith gwaith neu’r cortynnau gwddf arbennig i ddysgwyr y gwnaeth y Cynulliad eu cynhyrchu rai blynyddoedd yn ôl.
https://www.youtube.com/watch?v=zrAl2piHxAc
Yn gryno ...

Y nod yn y pendraw yw cynyddu gallu’r holl sefydliad i weithredu fel sefydliad naturiol ddwyieithog. Mae cynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg sy’n gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn un ffordd o gyflawni’r nod hwnnw.
Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud i annog dysgwyr yn y Cynulliad:
- cynhyrchu adnoddau ar ffurf cardiau wedi’u lamineiddio neu siâp toblerôn ar wahanol faterion: cyfarchion ac ymadroddion cyffredinol; cadeirio cyfarfodydd; ateb y ffôn;
- defnyddio siaradwyr Cymraeg eraill yn y sefydliad i fod yn fentoriaid i ddysgwyr;
- trefnu digwyddiadau anffurfiol fel ‘coffi a chlonc’;
- cynnal sesiynau blasu i ddechreuwyr pur ar bynciau penodol fel cyfarchion cyffredinol neu’r anthem genedlaethol;
- digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth fel stondin adeg Gŵyl Ddewi, Diwrnod Shwmae neu Ddiwrnod Santes Dwynwen;
- perswadio staff i ddweud ‘Shwmae’ i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae/Su’mae.
https://www.youtube.com/watch?v=-nqUeCam-rg