Diwrnod #ShwmaeSumae - Ein canllaw i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle

Cyhoeddwyd 12/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2017

Unwaith eto eleni, bydd Aelodau a staff y Cynulliad yn nodi Diwrnod Shwmae/Su’mae gydag wythnos o weithgareddau. Bydd pawb yn cael eu hannog i gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’, a bydd taflenni a sticeri yn cael eu dosbarthu drwy’r adeilad i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod. Dysgu Learn 2 Bydd llawer o’r gweithgareddau yn cael eu hanelu at y nifer fawr o ddysgwyr yn y sefydliad. Yn wir, mae’r Cynulliad ar flaen y gad wrth ddarparu gwersi Cymraeg yn y gweithle. Mae tîm o dri thiwtor mewnol sy’n darparu gwersi ar bob lefel i Aelodau’r Cynulliad a’u staff ac i staff Comisiwn y Cynulliad. Byddwch yn hyblyg o ran eich staff a’u hanghenion Mae’r tîm yn gallu cynnig hyblygrwydd yn ei ddarpariaeth: yn ogystal â chynnig gwersi ffurfiol sy’n dilyn y gwerslyfrau arferol, mae hefyd yn gallu cynnig sesiynau un-i-un i ddysgwyr. Gall rhai o’r sesiynau hyn ganolbwyntio ar elfennau penodol megis ynganu neu loywi sgiliau siaradwyr Cymraeg rhugl. Cynhelir sesiynau penodol i wasanaethau cyfan o fewn y Cynulliad fel y gwasanaeth diogelwch neu’r gwasanaeth TGCh, gyda’r sesiynau yn cael eu teilwra i anghenion penodol y gwasanaethau hynny. Dysgu Learn Hwyl yw’r nod! Mae’r tîm hefyd yn trefnu digwyddiadau mwy anffurfiol o bryd i’w gilydd – er enghraifft, adeg Diwrnod Shwmae/Su’mae neu o amgylch Gŵyl Ddewi, trefnir cwis, helfa drysor ac ati. Yn ddiweddar, ffurfiwyd Côr y Cynulliad, a hynny’n rhannol er mwyn cynnig cyfle i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg. Er mwyn sicrhau bod mwy o sgyrsiau yn dechrau’n Gymraeg drwy gydol y flwyddyn, rydym yn darparu cortynnau gwddf iaith gwaith neu’r cortynnau gwddf arbennig i ddysgwyr y gwnaeth y Cynulliad eu cynhyrchu rai blynyddoedd yn ôl. https://www.youtube.com/watch?v=zrAl2piHxAc Yn gryno ... Llyfrau Books Y nod yn y pendraw yw cynyddu gallu’r holl sefydliad i weithredu fel sefydliad naturiol ddwyieithog. Mae cynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg sy’n gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn un ffordd o gyflawni’r nod hwnnw. Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud i annog dysgwyr yn y Cynulliad:
  • cynhyrchu adnoddau ar ffurf cardiau wedi’u lamineiddio neu siâp toblerôn ar wahanol faterion: cyfarchion ac ymadroddion cyffredinol; cadeirio cyfarfodydd; ateb y ffôn;
  • defnyddio siaradwyr Cymraeg eraill yn y sefydliad i fod yn fentoriaid i ddysgwyr;
  • trefnu digwyddiadau anffurfiol fel ‘coffi a chlonc’;
  • cynnal sesiynau blasu i ddechreuwyr pur ar bynciau penodol fel cyfarchion cyffredinol neu’r anthem genedlaethol;
  • digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth fel stondin adeg Gŵyl Ddewi, Diwrnod Shwmae neu Ddiwrnod Santes Dwynwen;
  • perswadio staff i ddweud ‘Shwmae’ i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae/Su’mae.
https://www.youtube.com/watch?v=-nqUeCam-rg