- Y Senedd, adeilad seneddol modern, un o'r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru a chartref siambr drafod y Cynulliad;
- Y Pierhead, adeilad Fictoraidd hwyr hanesyddol sydd bellach yn amgueddfa ac arddangosfa, a;
- Tŷ Hywel, cartref gwreiddiol siambr drafod y Cynulliad ynghyd â swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad a staff.
Drysau Agored CADW 2014
Cyhoeddwyd 10/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Ar 20 Medi 2014 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored blynyddol CADW. Bydd cannoedd o atyniadau ledled Cymru yn cynnig mynediad, gweithgareddau neu ddigwyddiadau am ddim yn ystod mis Medi, gyda rhai adeiladau unigryw hyd yn oed yn caniatáu mynediad i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Bydd ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad yn mynd ar daith drwy amser, yn darganfod hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda mynediad i rai ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i'r cyhoedd.
Bydd y daith yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad: