Drysau Agored CADW 2014

Cyhoeddwyd 10/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/09/2014

Pierhead Ar 20 Medi 2014 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored blynyddol CADW. Bydd cannoedd o atyniadau ledled Cymru yn cynnig mynediad, gweithgareddau neu ddigwyddiadau am ddim yn ystod mis Medi, gyda rhai adeiladau unigryw hyd yn oed yn caniatáu mynediad i'r cyhoedd am y tro cyntaf. Bydd ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad yn mynd ar daith drwy amser, yn darganfod hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda mynediad i rai ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Bydd y daith yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad:
  • Y Senedd, adeilad seneddol modern, un o'r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru a chartref siambr drafod y Cynulliad;
  • Y Pierhead, adeilad Fictoraidd hwyr hanesyddol sydd bellach yn amgueddfa ac arddangosfa, a;
  • Tŷ Hywel, cartref gwreiddiol siambr drafod y Cynulliad ynghyd â swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad a staff.
Dyddiad: 20 Medi, 14:00 Mae'n hanfodol archebu gan mai dim ond i nifer gyfyngedig o bobl y gallwn gynnig y daith unigryw hon y tu ôl i'r llenni. Ffoniwch 0845 0105500 neu 01492 523 200 i archebu eich lle. Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA Gwybodaeth am deithio: Mae'r bws plygu yn gadael Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog bob deng munud. Mae gwasanaethau'r trên bob 12 munud o Orsaf Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r orsaf ychydig o funudau ar droed o'r Senedd a'r Pierhead. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33, dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar feic/ar droed, mae Taith yr Afon Taf o Aberhonddu drwy ganol dinas Caerdydd i Fae Caerdydd yn dod i ben yn y basn y tu allan i'r Senedd. Os na allwch ddod ar 20 Medi, gallwch ymweld â'r Senedd a'r Pierhead o hyd - maent ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Gallwch gael paned o goffi yn Oriel y Senedd ar y lefel uwch, a mynd o'r Neuadd ar y lefel ganol i'r orielau cyhoeddus. Ac nid dim ond ymwelwyr sy'n dod i weld y Senedd a'i mwynhau - mae gennym hefyd berfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a phob math o weithgareddau'n rheolaidd. Mae Drysau Agored CADW yn ddathliad blynyddol o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae'n rhan o'r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir ym 50 o wledydd Ewrop bob blwyddyn ym mis Medi. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys atyniadau eraill ledled Cymru sy'n cymryd rhan, ewch i wefan CADW: http://cadw.wales.gov.uk/opendoors/?skip=1&lang=cy Style: "DEP 18:03:09 04"