Os wyt ti dros 16 oed ac yn galw Cymru yn gartref, defnyddia dy lais ar 6 Mai 2021 drwy bleidleisio yn etholiad y Senedd. Dyma'r prif bethau y mae angen i ti wybod amdanynt mewn perthynas ag etholiad y Senedd eleni.
Pleidlais hanesyddol
Eleni, am y tro cyntaf yng Nghymru, os wyt ti’n 16 oed neu'n hŷn, mae gen ti’r hawl i bleidleisio yn etholiad y Senedd.
Dwy bleidlais
Pan fyddi di’n mynd i’r orsaf bleidleisio ar 6 Mai, bydd cyfle i ti roi dwy groes ar dy bapur pleidleisio, a byddi di’n pleidleisio dros y bobl a fydd yn dy gynrychioli di yn y Senedd am y pum mlynedd nesaf.
Mae dy bleidlais gyntaf ar gyfer y person rwyt ti am iddo dy gynrychioli di a dy ardal leol, sy’n cael ei galw yn etholaeth. Mae 40 etholaeth yng Nghymru, pob un yn anfon un unigolyn i'r Senedd.
Mae dy ail bleidlais ar gyfer dewis y bobl rwyt ti am iddynt gynrychioli dy ranbarth yng Nghymru. Mae pum rhanbarth yng Nghymru, pob un yn anfon pedwar unigolyn i’r Senedd.
Pwy sy'n dy gynrychioli di?
Mae pum Aelod o’r Senedd yn dy gynrychioli. Mae un ohonynt ar gyfer dy ardal leol, a phedwar ohonynt ar gyfer y rhanbarth o Gymru rwyt ti'n byw ynddi.
Mae Aelodau etholaethol yn cael eu dewis gan ddefnyddio'r system cyntaf i'r felin. Mae hyn yn golygu mai'r person sy'n cael mwyafrif y pleidleisiau sy’n cael ei ethol, a bydd yn dy gynrychioli di a dy etholaeth yn y Senedd.
Mae Aelodau Rhanbarthol yn cael eu dewis gan ddefnyddio'r System Aelodau Ychwanegol. Mae'r system Aelodau Ychwanegol yn helpu cyfansoddiad terfynol y Senedd, er mwyn iddo adlewyrchu'r gefnogaeth i bob plaid ledled y wlad yn well.
Cyfle i ddarllen mwy am sut mae dy bleidlais yn cael ei defnyddio i ethol Aelodau o'r Senedd.
Pam mae etholiad y Senedd yn bwysig?
Bob blwyddyn, caiff tua £17 biliwn ei wario yng Nghymru ar bethau sy'n effeithio ar dy fywyd, fel iechyd ac addysg. Byddi di wedi gweld yn ddiweddar sut y mae penderfyniadau yng Nghymru sy'n ymwneud â’r pandemig COVID-19 wedi bod yn wahanol i rannau eraill o'r DU. Mae pleidleisio yn etholiad y Senedd yn gyfle i ti fynegi barn ynghylch pwy sy'n dy gynrychioli di a dy gymuned yn y Senedd.
Gall dy bleidlais ddylanwadu ar bwy fydd â gofal am y pwerau sydd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer siapio bywyd yng Nghymru.
Sut mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn wahanol?
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu, ac yn gyfrifol am reoli materion o ddydd i ddydd. Y Llywodraeth sy’n dewis sut i wario arian cyhoeddus, a sut i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, fel iechyd ac addysg.
Mae'r Senedd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae'n archwilio cynlluniau'r Llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau iddynt. Mae'r Aelodau hefyd yn codi materion yn y Senedd sy'n bwysig i ti.
Cyfle i ddarllen mwy am rôl y Senedd.
Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?
Pan mae’r Senedd yn eistedd, mae'r Aelodau'n cwrdd ddwywaith yr wythnos yn y Siambr (y siambr drafod). Maent yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn archwilio cyfreithiau arfaethedig ac yn trafod materion. Mae'r Aelodau hefyd yn cymryd rhan yn ein pwyllgorau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd neu addysg, ac yn archwilio cyfreithiau neu bolisïau'r Llywodraeth a allai effeithio arnynt.
Mae gan y mwyafrif o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth neu ranbarth. Yn aml, byddant yn cynnal 'cymorthfeydd', sef sesiynau rheolaidd lle gall unrhyw aelod o'r cyhoedd ddod i gwrdd â'u cynrychiolydd a thrafod unrhyw faterion a allai beri pryder iddynt. Mae llawer o etholwyr hefyd yn cysylltu â’u cynrychiolwyr ar-lein, neu dros y ffôn.
Bydd Aelodau hefyd yn ymweld â busnesau, ysgolion a sefydliadau lleol eraill i geisio cwrdd â chymaint o bobl â phosibl. Mae hyn yn rhoi gwell syniad iddynt o’r materion a’r problemau bob dydd sy'n wynebu'r rhai y maent yn eu cynrychioli, a gallant eu trafod wedyn yn y Senedd.
Cyfle i ddarllen mwy am Aelodau o'r Senedd.
Pleidleisio ar 6 Mai
Os wyt ti'n bwriadu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar 6 Mai, cofia wisgo gorchudd wyneb, cofia fynd â phensel neu feiro, a phaid â mynd os nad wyt ti'n teimlo'n dda. Cyfle i gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio’n bersonol gan y Comisiwn Etholiadol.