Etholiad y Senedd 2026: Pwy yw’r ymgeiswyr yn fy ardal i?

Cyhoeddwyd 23/04/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/04/2026

Gydag etholiad y Senedd yn digwydd ar 7 Mai, efallai eich bod chi'n meddwl tybed pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy, swyddogol amdanyn nhw.

Mae sawl ffordd y gallwch chi weld dros bwy allwch chi bleidleisio. Beth am edrych:

Beth yw “fy ardal i”?

Ar gyfer etholiad y Senedd, mae Cymru wedi’i rhannu’n ardaloedd pleidleisio o’r enw etholaethau. Mae 16 etholaeth ar gyfer yr etholiad hwn, ac mae gan bob un ohonynt yr un nifer o bobl yn byw ynddynt.

Pan fyddwch chi'n bwrw eich pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad, byddwch chi'n penderfynu pwy hoffech chi i gynrychioli eich etholaeth yn y Senedd.

Ddim yn siŵr beth yw eich etholaeth? Defnyddiwch ein map etholaethau i weld.

 

Defnyddio gwefannau dibynadwy

Mae sawl sefydliad yn cyhoeddi gwybodaeth am ymgeiswyr sy'n sefyll yn etholiad y Senedd, y gallwch chwilio yn ôl cod post. Mae'r gwefannau hyn yn fan cychwyn da ar gyfer dod o hyd i wybodaeth swyddogol, ddiduedd.

bwrwpleidlais.cymru

  • Dangos pa bleidiau ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad yn eich ardal.
  • Eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ymarferol am bleidleisio, fel ble mae eich gorsaf bleidleisio.
  • Darparu gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddeall.

Mae bwrwpleidlais.cymru yn wefan swyddogol sy'n rhoi gwybodaeth ddiduedd am bleidleisio yng Nghymru a chymryd rhan yn etholiad y Senedd. Mae’n cael ei redeg gan Fwrdd Rheoli Etholiadau Cymru, sy'n niwtral yn wleidyddol, a'i nod yw helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am etholiad y Senedd.

Whocanivotefor.co.uk

  • Dangos pa bleidiau ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad yn eich ardal.
  • Rhoi gwybodaeth fanwl am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol.
  • Cynnwys mapiau etholaethau.

Mae WhoCanIVoteFor.co.uk yn cael ei redeg gan y Clwb Democratiaeth, sefydliad di-elw sy'n hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth.

Y Comisiwn Etholiadol

  • Egluro sut mae etholiad y Senedd yn gweithio.
  • Lincs i wybodaeth am etholiadau lleol.
  • Eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau swyddogol yn eich ardal.

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Mae'n darparu gwybodaeth swyddogol, wedi'i gwirio.

Eich cyngor lleol

Yn yr wythnosau cyn yr etholiad, bydd eich awdurdod lleol (y cyngor) yn cyhoeddi dogfen swyddogol o'r enw Datganiad am y Sawl a Enwebwyd. Mae’n rhestru:

  • Pob ymgeisydd sy'n sefyll ym mhob etholaeth.
  • Y blaid wleidyddol maen nhw'n ei chynrychioli (os o gwbl).
  • Ymgeiswyr annibynnol.

Dylech chi allu dod o hyd i hyn yn adran Etholiadau ar wefan eich cyngor lleol.

 

Chwilio am daflenni etholiad a digwyddiadau cymunedol

Gallwch hefyd ddysgu am ymgeiswyr drwy:

  • Taflenni etholiad yn cael eu danfon i'ch cartref.
  • Digwyddiadau neu hystings lleol.
  • Papurau newydd lleol, radio neu wefannau cymunedol.

“Hystings” yw lle mae ymgeiswyr neu bleidiau yn ateb cwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. Mae hystings yn rhoi cyfle i bleidleiswyr glywed barn y bobl sy'n sefyll etholiad yn eu hardal.

 

Gwneud dewis gwybodus

Darganfod pwy sy'n sefyll yw'r cam cyntaf.

I gael gwybod mwy, gallwch edrych ar faniffestos pleidiau neu ymgeiswyr.

Rhestr o addewidion sy’n cael eu gwneud gan blaid wleidyddol (neu ymgeisydd annibynnol) yw maniffestos ac mae'n awgrymu'r pethau y byddan nhw’n eu gwneud os byddant yn cael eu hethol. 

Bydd hyn yn eich helpu i ddarganfod beth maen nhw'n ei gynrychioli a beth maen nhw'n ei feddwl am faterion sy'n bwysig i chi.

Dylai maniffestos fod yn hawdd i'w gweld ar-lein drwy chwilio am bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr annibynnol wrth eu henwau.

Unwaith y byddwch wedi dysgu mwy am y pleidiau a'r ymgeiswyr yn eich ardal, gallwch wneud dewis gwybodus ynghylch pwy i bleidleisio drosto.

 

Mae eich pleidlais yn cyfrif. Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n ei ddefnyddio ar 7 Mai.