Ar 7 Mai, bydd gennych un bleidlais i ddewis pwy sy’n eich cynrychioli chi a’ch cymuned yn y Senedd. Ar eich papur pleidleisio, byddwch yn dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Sut mae'r etholiad hwn yn wahanol?
Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o ardaloedd newydd ar gyfer etholiad 2026, a elwir yn etholaethau.
Bydd gan bob etholaeth chwe ‘sedd’ yn y Senedd, sy'n golygu y bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob un o’r etholaethau.
Beth yw rhestrau’r pleidiau?
Cyn yr etholiad, bydd pob plaid wleidyddol yn llunio rhestrau sy’n cynnwys hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru. Ni all ymgeiswyr ond sefyll mewn un etholaeth.
Gall ymgeiswyr annibynnol, nad ydynt yn rhan o blaid wleidyddol, sefyll mewn etholiad hefyd.
Sut mae rhestrau’r pleidiau yn gweithio?
Pan fydd plaid wleidyddol yn ennill seddi mewn etholaeth, caiff y bobl gyntaf ar restr y blaid honno eu hethol i'r seddi hynny, yn nhrefn y rhestr.
Felly, os bydd plaid yn ennill tair sedd mewn etholaeth, y tri pherson ar frig rhestr y blaid honno fydd yn cael eu hethol i’r seddi hynny. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn denu digon o bleidleisiau, bydd yr ymgeisydd hwnnw hefyd yn ennill sedd.
Sut alla i weld dros bwy rydw i'n pleidleisio?
Ar ddiwrnod yr etholiad, yn eich gorsaf bleidleisio, byddwch yn cael papur pleidleisio a bydd gennych un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol i’ch cynrychioli yn y Senedd.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos enwau pawb sy'n sefyll i'w ethol ar restr pob plaid, felly byddwch yn gallu gweld pwy allai gael ei ethol yn eich ardal chi.
Bydd enwau unrhyw ymgeiswyr annibynnol hefyd yn cael eu dangos ar y papur pleidleisio.
Gallwch weld sut olwg fydd ar eich papur pleidleisio isod:
Enghraifft o bapur pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
Noder: nid pobl na phleidiau gwleidyddol go iawn yw'r rhain. Yn hytrach, maent wedi'u llunio fel enghraifft yn seiliedig ar y papur pleidleisio sampl a ddefnyddiwyd yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Sut y caiff yr Aelodau o’r Senedd eu hethol?
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Felly, os caiff Plaid A 50% o’r pleidleisiau mewn etholaeth, bydd y blaid honno yn debygol o gael tair o’r chwe sedd. Os caiff Plaid B 30%, bydd y blaid honno’n debygol o gael dwy o'r chwe sedd. Os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, bydd yr ymgeisydd hwnnw hefyd yn ennill sedd.
Enw’r system bleidleisio newydd yw’r ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Felly, bydd pob Aelod yn cael ei ethol yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei chael.
Rhagor o wybodaeth: Beth yw fformiwla D'Hondt a sut mae'n gweithio?
Mae’r system newydd yn golygu y bydd cyfansoddiad terfynol y Senedd yn cynrychioli dewis pleidleiswyr ledled Cymru yn well, felly bydd pob pleidlais yn cyfrif.
Nid oes yn rhaid ichi ddod â dogfen adnabod i bleidleisio yn etholiad y Senedd, ond mae’n rhaid ichi gofrestru i bleidleisio.
Mae mwy o wybodaeth am yr etholiad ar gael ar ein gwefan: Etholiad y Senedd 2026.