Gofalu am wenyn y Pierhead: ein staff sy'n gwirfoddoli

Cyhoeddwyd 11/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Awst 2019

Mae Pierhead y Cynulliad wedi bod yn gartref i ddau gwch gwenyn ar y to ers mis Gorffennaf 2018, lle mae tîm bach o staff sy'n gwirfoddoli yn eu monitro ac yn gofalu amdanynt yn rheolaidd.

Er gwaethaf eu lleoliad ar y to mae'r cychod gwenyn mewn man diogel, cysgodol sy'n eu hamddiffyn rhag y gwaethaf o dywydd Bae Caerdydd. O dan lygaid craff ein gwirfoddolwyr gwnaethant ymgartrefu drwy'r hydref a goroesi eu gaeaf cyntaf. Nawr mae'n haf eto, mae'r gwenyn yn gweithio'n galed ac wedi dechrau cynhyrchu mêl.

Yma, mae dau o'n gwirfoddolwyr yn siarad am eu profiadau:

Emily

Mae'r haf wedi cyrraedd ac mae gwenyn y Pierhead yn brysurach nag erioed yn chwilota ardaloedd cyfagos y Pierhead i adeiladu storfeydd o'u mêl euraidd bendigedig.

Er bod un o'r cychod gwenyn wedi cael dechrau cymharol araf yr haf hwn, mae'r gwenyn wedi gwneud iawn amdano ac maen nhw bellach wedi cronni ffrâm ar ôl ffrâm o fêl a fydd yn cael ei gynaeafu yn yr hydref. Nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor galed y mae'r gwenyn yn gweithio…i wneud dim ond 1KG o fêl, bydd ein gwenyn wedi hedfan 145,000km a gallent fod wedi ymweld â hyd at 2000 o flodau'r dydd! Fel y gallwch weld o'r lluniau isod, maen nhw wedi bod yn brysur iawn.

Felly sut mae'r gwenyn yn gwneud mêl? Mae ein gwenyn wedi bod yn brysur yn chwilota'r ardal leol am neithdar a geir mewn planhigion a blodau gwyllt. Cesglir y neithdar, yna unwaith y bydd y tu mewn i'r cwch gwenyn, bydd y gwenyn gweithgar yn bwyta, yn treulio ac yn ailgyfogi'r neithdar i'r celloedd. Pan fydd y cysondeb cywir, caiff y mêl ei selio, sef yr hyn y gallwch chi ei weld yn y lluniau isod.

Dyma'r tymor cyntaf lle byddwn ni'n gallu cynaeafu mêl, ac fel gwenynwr newydd rwy'n edrych ymlaen at weld y broses. Mae mêl wedi'i gynaeafu ers miloedd o flynyddoedd am ei fuddion amrywiol. Nid yn unig y mae'n flasus a byth yn difetha, ond mae ganddo hefyd lawer o briodweddau meddyginiaethol hefyd. Mae'n wrthfacterol ac yn wrthlidiol a gellir ei ddefnyddio hyd yn oed i helpu i leddfu symptomau clefyd y gwair. Gobeithio y bydd y gwenyn yn ddigon caredig i rannu peth o'u mêl gyda ni yn ddiweddarach yn y flwyddyn!

Oeddech chi'n gwybod?
Daethpwyd o hyd i fêl ym meddrodau Pharoaid yr Aifft hynafol a phan gawsant eu cloddio roeddent yn dal i fod yn fwytadwy 3000 o flynyddoedd yn ddiweddarach! Profi'r theori nad yw mêl byth yn difetha!

Sian D


Fel carwr natur, rwy'n teimlo'n ffodus iawn i fod yn rhan o brosiect mor gyffrous yn y Cynulliad.

Pwy ag ŵyr bod cymaint i'w ddysgu am wenyn?! Rydw i wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers ychydig dros flwyddyn bellach ac rydw i'n dal i ddysgu yn gyson am eu ffyrdd a'u triciau. Rydw i bron bob amser yn cael fy synnu pan fydda i'n codi'r caead oddi ar gwch gwenyn ac yn edrych i mewn - yn enwedig ar y cyflymder rhyfeddol y mae'r cychod gwenyn yn newid ac yn datblygu.

Mae natur brysur y gwenyn yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn cynnal archwiliadau wythnosol yn ystod misoedd yr haf, tra bod y blodau'n blodeuo a bod gweithgarwch peillio yn mynd rhagddo. Rydyn ni'n gweithio fel pâr yn ystod yr arolygiadau, gan sganio bob ffrâm yn drylwyr wrth inni weithio ein ffordd drwy'r cwch gwenyn. Wrth inni sganio rydyn ni'n edrych am fêl (eu cyflenwad bwyd); paill; celloedd nythaid wedi'u capio; larfa; wyau; a'r frenhines anamlwg fel arfer.

Yn ystod arolygiad efallai y byddwch yn dod o hyd i rai o'r gwenyn yn codi eu cefnau yn yr awyr ac yn gwyntyllu eu hadenydd yn wyllt. Os ydych chi'n ddigon dewr i roi'ch wyneb yn agos atyn nhw, yna byddwch chi'n arogli arogl ffres hyfryd lemwn. Mae'r arogl hwn a ryddheir yn helpu'r gwenyn sy'n chwilota am fwyd i ddod o hyd i'w ffordd adref.

Wrth ichi sganio drwy'r cychod gwenyn fe welwch hefyd fod y celloedd wedi'u capio yn dod mewn gwahanol feintiau. Bydd y rhai mawr sydd wedi codi yn cynnwys gwenyn drôn (gwryw) ac mae'r celloedd mwy gwastad yn cynnwys gwenyn benywaidd llai.

Oeddech chi'n gwybod y gall y frenhines ddewis rhyw ei phlant? Pan fydd brenhines forwyn yn gadael y cwch gwenyn am y tro cyntaf bydd hi'n cael sawl pariad gyda gwenyn drôn yn ystod ei hediad. Yna mae hi'n storio'r sberm gan ei ddefnyddio fesul tipyn wrth iddi ddodwy ei hwyau. Bydd ei chyflenwad fel arfer yn para tua thair blynedd. Os bydd hi'n ffrwythloni ŵy â sberm yna bydd gwenynen fenyw yn dod i'r amlwg, a bydd drôn yn dod allan o ŵy heb ei ffrwythloni. Mae’r 'dewis’ hwn yn cael ei bennu gan faint y celloedd haid a wneir gan y gwenyn gweithgar. A dim ond ychydig o'r ffeithiau hynod ddiddorol am y gwenyn rhyfeddol yw'r rhain!

https://twitter.com/ILovesTheDiff/status/1153659391926788096

Sian C

Manteisiais ar y cyfle i fod yn rhan o’r tîm cadw gwenyn yma yn y Cynulliad ac nid yw fy mhrofiad hyd yma wedi siomi.

Mae cadw gwenyn yn hynod ddiddorol ac rwy'n teimlo bod yr amser a dreulir ar ben y Pierhead mor hamddenol. Mae gofalu am y gwenyn a gwylio'r cychod gwenyn yn tyfu ac yn newid wedi bod yn addysg, ac rwy'n llawn parch tuag at y cytrefi a'r ffordd y mae natur yn gweithio.

Rydw i wedi dysgu cymaint, nid yn unig am y gwenyn, ond hefyd mae hefyd wedi ennyn fy niddordeb mewn materion amgylcheddol ymhellach ac o hyn rydw i wedi gwneud rhai newidiadau mawr i'm harferion fel defnyddiwr, fy neiet ac yn yr ardd! Nid yn unig rydw i wedi dysgu sgil newydd, rydw i hefyd wedi cwrdd â phobl newydd anhygoel o bob rhan o fywyd y Cynulliad, na fyddwn i wedi cael y cyfle i ddweud mwy na 'helo' cyflym iddyn nhw yn y coridor fel arall.

Diolch am y cyfle i fod yn rhan o brosiect mor arloesol - dwi wrth fy modd!”

Katy

Rwyf bob amser yn synnu gweld y llythrennau ‘Dr.’ o flaen fy enw. Ond, doctor ydw i. Nid y math y byddech chi am gael yn gwmni ar awyren pan fo’r stiwardiaid yn gweiddi ‘a oes meddyg yma?!’, efallai, oherwydd fy mod i’n ‘Ddoctor Gwenyn’ (yn ôl fy nghyfeillion, ta beth). Roedd fy noethuriaeth yn seiliedig ar astudio pryfed peillio gwyllt, a oedd yn cynnwys nodi rhywogaethau gwenyn a’r blodau y maen nhw’n bwydo arnyn nhw.

Felly, roeddwn i wedi cyffroi’n lân i glywed bod y Cynulliad wedi dechrau cadw gwenyn. Erbyn hyn, rwy’n aelod o’r tîm Gwenyn, ac mae’n fraint o’r mwyaf. Er fy mod i wedi astudio cymunedau o bryfed peillio gwyllt, nid oedd gennyf ddim profiad o gadw gwenyn mêl. Rwyf wedi dysgu cymaint gan Nature’s Little Helpers a fy nghyfeillion ar y tîm, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud hynny.

Maen nhw’n anifeiliaid anhygoel. Maen nhw’n gweithio fel grŵp go iawn, ac mae i bob un aelod o’r grŵp ei rôl arbenigol yn dibynnu ar ei oedran, gan fynd ati i’w chyflawni’n ddiwyd. Y gwenyn ieuengaf yw’r glanhawyr. Maen nhw’n symud ymlaen i fwydo’r larfâu sy’n frodyr ac yn chwiorydd iddyn nhw, adeiladu’r crwybrau a gwarchod y cwch gwenyn cyn hedfan i ffwrdd i gasglu paill a neithdar. Gyda’i gilydd, maen nhw’n creu’r grŵp mwyaf trylwyr a rhyfeddol. Ac, wrth gwrs, mae yna Frenhines. Fodd bynnag, nid yw hi’n teyrnasu fel y byddech chi’n dychmygu, oherwydd y gwenyn gweithgar sy’n penderfynu beth yw beth. Drwy arwyddion, maen nhw’n rheoli gweithgarwch y frenhines - maen nhw hyd yn oed yn penderfynu a yw hi’n dodwy cynrhonyn gwrywaidd neu fenywaidd!


Oherwydd eu lleoliad ar y to a pheidio â bod eisiau aflonyddu ar y gwenyn, nid yw'r cychod gwenyn ar agor i'r cyhoedd, er efallai y byddwch chi'n gweld un o'n gwenyn yn casglu paill o amgylch Bae Caerdydd.