Gweithdy Dinasyddiaeth Rathbone – Llanelli

Cyhoeddwyd 05/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2013

Ymwelodd Simon Thomas AC a’r Tîm Allgymorth “Y Pad Lansio” yn Rathbone Cymru, Llanelli i gynnal Gweithdy Dinasyddiaeth gyda phobol ifanc yn yr ardal. Drwy gynnal trafodaethau ar bwerau sydd wedi’u ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â rhoi cyfle i bobol ifanc i ddeisebu’r Cynulliad ynglŷn â materion y maent yn teimlo’n gryf amdan yn eu cymunedau, y gobaith yw eu bod yn gal profiad talgrwn sy’n helpu nhw i ymgysylltu gyda’r amgylchedd y maent yn byw ynddo. Y Pad Lansio Hoffwn ddiolch i Rathbone Cymru ac aelodau’r staff yn y Pad Lansio am y cyfle i ymweld â nhw. Os bydda chi yn hoffi trefnu cyflwyniad neu weithdy gyda’r Tîm Allgymorth, cysylltwch gyda ni ar e-bost: outreachteam@cymru.gov.uk Fel arall, pe bai chi’n hoffi trefnu Taith o’r Senedd, fedrwch chi gysylltu â ni drwy’r Llinell Archebu ar 0845 010 5500, neu ffon testun ar 0845 010 5678 neu drwy e-bost: archebu@cymru.gov.uk