Cyhoeddwyd 06/07/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae hawliau dynol yng Nghymru yn dyddio o 945 pan gyhoeddwyd cyfreithiau Hywel Dda. Roedd y cyfreithiau’n hybu tosturi yn hytrach na chosb, ac ymdeimlad o barch tuag at fenywod.
Mae egwyddorion hawliau dynol wedi’u seilio ar urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac ymreolaeth. Maent yn berthnasol i’ch bywyd o ddydd i ddydd ac yn diogelu eich rhyddid i reoli eich bywyd eich hun.
Hawliau dynol yw’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol sy’n perthyn i bob person yn y byd, o’i enedigaeth hyd at ei farwolaeth. Maent yn berthnasol ni waeth o ble yr ydych yn dod, beth yr ydych yn credu ynddo, neu sut yr ydych yn dewis byw eich bywyd. Ni all hawliau dynol fyth gael eu cymryd oddi arnom, er bod modd cyfyngu arnynt weithiau, er enghraifft, os yw person yn torri’r gyfraith, neu er budd diogelwch cenedlaethol.
Maent yn eich helpu i ffynnu ac i wireddu eich potensial drwy:
- fod yn ddiogel a chael eich amddiffyn rhag niwed
- cael eich trin yn deg a chydag urddas
- byw’r bywyd a ddewiswch
- cymryd rhan weithredol yn eich cymuned a’r gymdeithas ehangach.
Maent wedi’u hymgorffori yn y
Ddeddf Hawliau Dynol, ac maent yn cynnig hawliau sylfaenol a chamau i amddiffyn pob un ohonom. Mae’r amddiffyniadau sydd wedi’u hymgorffori yn y Ddeddf fel a ganlyn:
- Erthygl 2 Hawl i fywyd
- Erthygl 3 Rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol
- Erthygl 4 Rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
- Erthygl 5 Hawl i ryddid a diogelwch
- Erthygl 6 Diogelu’r hawl i gael treial teg.
- Erthygl 7 Dim cosb heb gyfraith
- Erthygl 8 Parch at eich bywyd preifat a theuluol, eich cartref a’ch gohebiaeth
- Erthygl 9 Rhyddid meddwl, cred a chrefydd
- Erthygl 10 Rhyddid mynegiant
- Erthygl 11 Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu
- Erthygl 12 Hawl i briodi a dechrau teulu
- Erthygl 13 Hawl i ymwared effeithiol mewn achos o dorri
- Erthygl 14 Diogelu rhag gwahaniaethu mewn perthynas â hawliau a’r rhyddfreintiau hyn
- Protocol 1, Erthygl 1 Hawl i fwynhad heddychlon o eich eiddo
- Protocol 1, Erthygl 2 Hawl i addysg
- Protocol 1, Erthygl 3 Hawl i gymryd rhan mewn etholiadau rhydd
- Protocol 13, Erthygl 1 Diddymu’r gosb eithaf
I gael rhagor o wybodaeth
Yn ddiweddar cyhoeddodd ein Gwasanaeth Ymchwil erthygl flog yn dwyn y teitl
Cyflwr hawliau dynol a chydraddoldeb a oedd yn edrych ar sefyllfa cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol.
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wybodaeth gynhwysfawr am hawliau dynol, gan gynnwys fideo sy’n ateb y cwestiwn
Beth yw hawliau dynol?, yn ogystal â gwybodaeth am sut y mae
hawliau’n cael eu diogelu a rhai
straeon am hawliau dynol ar waith. Mae adroddiad y Comisiwn, sef
A yw Cymru’n decach? yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn 2015.
Mae digon o wybodaeth am hawliau dynol ar y wefan
Gwybodaeth am hawliau (Rights Info) hefyd, ac mae’r corff hwn wedi cynhyrchu darn byr o ffilm
animeiddio sy’n egluro beth yw hawliau dynol.