Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion, Ionawr 2019
![](/blogfilescy/2019/01/perinatal-mental-health-1.jpg)
Faint o gynnydd sydd wedi'i wneud?
Wythnos yma, bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn clywed oddi wrth Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, am y gwaith sydd wedi ei wneud mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor blwyddyn diwethaf i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.
Mae iechyd meddwl amenedigol yn ymwneud â'r cyfnod rhwng beichiogi a diwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i babi gael ei eni. Mae a wnelo iechyd meddwl amenedigol â lles emosiynol menywod beichiog a'u plant, eu partneriaid a'u teuluoedd.
Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ganfyddiadau'r ymchwiliad yn yr hydref y llynedd ac addawodd olrhain y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran y newidiadau arfaethedig flwyddyn ar ôl hynny.
Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, gofynnwyd barn rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o'r gwasanaethau a gynigir ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Gyfrannodd eu straeon onest, weithiau anodd, at lunio argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru.
Yr hyn a glywsom
"Rydym i gyd yn byw mewn gwahanol ardaloedd ac roedd yn rhaid inni geisio cael help mewn ffyrdd gwahanol."
Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor wedi clywed gan y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mater, cymerodd 30 o bobl o bob cwr o Gymru rhan mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd. Roedd amrywiaeth o famau, aelodau o'r teulu a staff yn gweithio gyda'r rhai yr effeithir arnynt. Siaradwyd am eu profiadau - beth, yn eu barn hwy, oedd wedi gweithio, yr hyn y teimlent y gellid ei wella, a pha newidiadau y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu gwneud i’r cymorth sydd ar gael.
"Cysondeb gofal - bydwraig â hyfforddiant ym maes iechyd meddwl. Wyneb cyfeillgar."
Roedd y prif faterion a nodwyd yn cynnwys:
- Prinder Unedau Mamau a Babanod yng Nghymru
- Pwysigrwydd yr hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd
- Anghysondebau o ran y gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol a ddarperir
- Yr angen i sicrhau parhad y gofal
- Yr angen i ddileu'r stigma sydd ynghlwm wrth gyflyrau iechyd meddwl amenedigol a normaleiddio profiad y fam
Gallwch wylio fideo byr yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod y digwyddiad yma:
"Mae'r fideo yn brydferth ac emosiynol. Diolch. Rwy'n falch fy mod wedi gallu rhannu fy mhrofiadau i wneud gwahaniaeth."
Roedd amseriad y digwyddiad, a gynhaliwyd yn gynnar yn ystod yr ymchwiliad, yn golygu y gallai aelodau'r Pwyllgor ddefnyddio profiadau a barn y rhai a oedd yn bresennol i lywio'r ymchwiliad, a chyfeirio'r cwestiynau tuag at faterion a godwyd gan y rhai gyda profiad uniongyrchol.
"Roeddem yn teimlo bod Aelodau'r Cynulliad wedi gwrando arnom ni. Roeddem yn teimlo bod yr hyn a ddioddefwyd gennym yn bwysig i eraill, ond yn y pen draw mae'n gwneud i chi deimlo y bydd rhywbeth yn newid er gwell. Mae'n beth cyffrous i wybod bod pobl eraill yn teimlo'n gryf am yr un pethau."
Defnyddiwyd materion a godwyd yn ystod y digwyddiad yn ystod cyfarfodydd ffurfiol â chyrff cynrychioliadol perthnasol a Llywodraeth Cymru, a chyfrannodd profiadau nifer o'r rhai a oedd yn bresennol ar adroddiad y Pwyllgor:
Iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru (PDF, 5.1MB)
Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?
Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol arbenigol, sefydlu Uned Mamau a Babanod yn agosach i adre ar gyfer pobl ar draws Cymru, a sicrhau mynediad amserol i gymorth seicolegol i ferched beichiog ac ôl-enedigol a’u partneriaid.
Mae'r blog hwn, a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad, yn crynhoi'r 27 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor, gyda 23 ohonynt wedi eu derbyn, neu derbyn mewn egwyddor, gan Lywodraeth Cymru: Blog y Gwasanaeth Ymchwil yngylch Iechyd Meddwl Amenedigol
"Mae'r allbwn hwn yn gwneud y pryder o siarad am fy mhrofiadau yn werth chweil. Hyd yn oed os na dderbyniwyd yr holl argymhellion, mae hyn yn dal i fod yn fwy nag a gawsom y llynedd neu pan oeddwn i'n sâl."
Cyfeiriodd Aelodau'r Cynulliad hefyd at y materion a godwyd gan y bobl gyda profiad uniongyrchol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2018. Gallwch wylio'r ddadl yma: Dadl y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad Iechyd Meddwl Amenedigol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn ei adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaeth erbyn diwedd Hydref 2018. Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf yma.
Gofynnwyd i'r rhai a fu'n rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol roi sylwadau ar yr wybodaeth ddiweddaraf i hysbysu cyfarfod y Pwyllgor a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wythnos yma (10 Ionawr 2019), lle bydd yn ateb cwestiynau ar y cynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud.
Gallwch wylio'r sesiwn ar Senedd TV, neu ddal i fyny yn nes ymlaen.
![](/blogfilescy/2019/01/perinatal-mental-health-2.jpg)
Mae eich barn yn llywio ein gwaith
Eich Cynulliad chi ydym ni, ac rydym yn eich cynrychioli chi.
Os hoffech wybod ragor am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i'n gwefan.