Iechyd meddwl amenedigol: flwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 09/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2019

Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion, Ionawr 2019

Faint o gynnydd sydd wedi'i wneud?

Wythnos yma, bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn clywed oddi wrth Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, am y gwaith sydd wedi ei wneud mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor blwyddyn diwethaf i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

Mae iechyd meddwl amenedigol yn ymwneud â'r cyfnod rhwng beichiogi a diwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i babi gael ei eni. Mae a wnelo iechyd meddwl amenedigol â lles emosiynol menywod beichiog a'u plant, eu partneriaid a'u teuluoedd.

Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ganfyddiadau'r ymchwiliad yn yr hydref y llynedd ac addawodd olrhain y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran y newidiadau arfaethedig flwyddyn ar ôl hynny.

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, gofynnwyd barn rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o'r gwasanaethau a gynigir ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Gyfrannodd eu straeon onest, weithiau anodd, at lunio argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru.

Yr hyn a glywsom

"Rydym i gyd yn byw mewn gwahanol ardaloedd ac roedd yn rhaid inni geisio cael help mewn ffyrdd gwahanol."

Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor wedi clywed gan y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mater, cymerodd 30 o bobl o bob cwr o Gymru rhan mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd. Roedd amrywiaeth o famau, aelodau o'r teulu a staff yn gweithio gyda'r rhai yr effeithir arnynt. Siaradwyd am eu profiadau - beth, yn eu barn hwy, oedd wedi gweithio, yr hyn y teimlent y gellid ei wella, a pha newidiadau y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu gwneud i’r cymorth sydd ar gael.

"Cysondeb gofal - bydwraig â hyfforddiant ym maes iechyd meddwl. Wyneb cyfeillgar."

Roedd y prif faterion a nodwyd yn cynnwys:

  • Prinder Unedau Mamau a Babanod yng Nghymru
  • Pwysigrwydd yr hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd
  • Anghysondebau o ran y gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol a ddarperir
  • Yr angen i sicrhau parhad y gofal
  • Yr angen i ddileu'r stigma sydd ynghlwm wrth gyflyrau iechyd meddwl amenedigol a normaleiddio profiad y fam

Gallwch wylio fideo byr yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod y digwyddiad yma:

"Mae'r fideo yn brydferth ac emosiynol. Diolch. Rwy'n falch fy mod wedi gallu rhannu fy mhrofiadau i wneud gwahaniaeth."

Roedd amseriad y digwyddiad, a gynhaliwyd yn gynnar yn ystod yr ymchwiliad, yn golygu y gallai aelodau'r Pwyllgor ddefnyddio profiadau a barn y rhai a oedd yn bresennol i lywio'r ymchwiliad, a chyfeirio'r cwestiynau tuag at faterion a godwyd gan y rhai gyda profiad uniongyrchol.

"Roeddem yn teimlo bod Aelodau'r Cynulliad wedi gwrando arnom ni. Roeddem yn teimlo bod yr hyn a ddioddefwyd gennym yn bwysig i eraill, ond yn y pen draw mae'n gwneud i chi deimlo y bydd rhywbeth yn newid er gwell. Mae'n beth cyffrous i wybod bod pobl eraill yn teimlo'n gryf am yr un pethau."

Defnyddiwyd materion a godwyd yn ystod y digwyddiad yn ystod cyfarfodydd ffurfiol â chyrff cynrychioliadol perthnasol a Llywodraeth Cymru, a chyfrannodd profiadau nifer o'r rhai a oedd yn bresennol ar adroddiad y Pwyllgor:

Iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru (PDF, 5.1MB)

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol arbenigol, sefydlu Uned Mamau a Babanod yn agosach i adre ar gyfer pobl ar draws Cymru, a sicrhau mynediad amserol i gymorth seicolegol i ferched beichiog ac ôl-enedigol a’u partneriaid.

Mae'r blog hwn, a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad, yn crynhoi'r 27 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor, gyda 23 ohonynt wedi eu derbyn, neu derbyn mewn egwyddor, gan Lywodraeth Cymru: Blog y Gwasanaeth Ymchwil yngylch Iechyd Meddwl Amenedigol

"Mae'r allbwn hwn yn gwneud y pryder o siarad am fy mhrofiadau yn werth chweil.  Hyd yn oed os na dderbyniwyd yr holl argymhellion, mae hyn yn dal i fod yn fwy nag a gawsom y llynedd neu pan oeddwn i'n sâl."

Cyfeiriodd Aelodau'r Cynulliad hefyd at y materion a godwyd gan y bobl gyda profiad uniongyrchol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2018. Gallwch wylio'r ddadl yma: Dadl y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad Iechyd Meddwl Amenedigol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn ei adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaeth erbyn diwedd Hydref 2018. Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf yma.

Gofynnwyd i'r rhai a fu'n rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol roi sylwadau ar yr wybodaeth ddiweddaraf i hysbysu cyfarfod y Pwyllgor a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wythnos yma (10 Ionawr 2019), lle bydd yn ateb cwestiynau ar y cynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud.

Gallwch wylio'r sesiwn ar Senedd TV, neu ddal i fyny yn nes ymlaen.


Mae eich barn yn llywio ein gwaith

Eich Cynulliad chi ydym ni, ac rydym yn eich cynrychioli chi. 

Os hoffech wybod ragor am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i'n gwefan.