Isafbris am Alcohol - Ai Dyma'r Ateb Cywir?

Cyhoeddwyd 13/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Fel rhan o’n hymchwiliad pwyllgor i’r isafbris am alcohol, gofynnwyd i bobl ifanc a phobl ddigartref am eu barn. Ymhlith y nifer o syniadau a gynigwyd oedd bod posibilrwydd y gallai canlyniadau anfwriadol ddeillio o godi isafbris am alcohol.

Y cefndir i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Ym mis Hydref 2017, gofynnwyd i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ystyried manylion Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn bwriadu gosod isafbris am uned o alcohol yng Nghymru, a’i gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw. Nod y Bil yw diogelu iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus drwy gynyddu pris alcohol rhad, cryf fel seidr gwyn. Fel rhan o’i waith, roedd y Pwyllgor eisiau darganfod a fyddai’r newidiadau hyn yn effeithio ar bobl ifanc a hefyd a allai unrhyw ganlyniadau anfwriadol ddeillio o’r Bil ar gyfer pobl sy’n ddibynnol ar alcohol, yn enwedig pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Canlyniadau anfwriadol?

Roedd y Pwyllgor wedi clywed trwy ei hymgynghoriad na fyddai cynnydd yn y defnydd o gyffuriau yn un o ganlyniadau anfwriadol y Bil, fel y byddai pris cyffuriau penodol dal i fod yn ddrutach na phrisiau alcohol uwch. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod pris cyffuriau megis spice yn "...rhywbeth fel £20 ym Manceinion, a rhywbeth tebyg i £35 yn Llundain". Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor grwpiau ffocws gyda'r gymuned ddi-gartref a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys Tŷ Croeso yn Wrecsam, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Canolfan Huggard yng Nghaerdydd a Choleg Llandrillo. Rhoddodd y bobl hynny a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws y Pwyllgor, yn benodol aelodau'r gymuned ddi-gartref, barn gyferbyniol i’r hyn roedd y Pwyllgor wedi clywed yn flaenorol. Roeddent yn meddwl y byddai prisiau alcohol uwch yn cael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gwthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol, gan byddai cyffuriau fel spice yn rhatach.
"Gallwch brynu potel o fodca am £ 15 ond gallwch gael pilsen am £ 7 - £ 10, a bydd ei effaith yn para drwy’r nos" Myfyriwr coleg, Conwy
Oherwydd y wybodaeth cyferbyniol a dderbyniodd y Pwyllgor, gofynwyd am fwy o wybodaeth am brisiau rhai cyffuriau yng Nghymru yn benodol, a chanfuont gall brynu spice ar strydoedd De Cymru am £5-10, a atgyfnerthodd beth a glywodd y Pwyllgor drwy’r grwpiau ffocws. Beth arall dywedodd pobl ifanc a’r gymuned ddi-gartref? Roedd pwyntiau ychwanegol a godwyd drwy’r grwpiau ffocws yn cynnwys:
  • Yn hytrach na’u hatal rhag prynu rhai mathau o alcohol, y byddai pobl ifanc, yn syml iawn, yn aberthu rhywbeth arall yn eu cyllideb, neu’n dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael mynediad at yr alcohol y maent fel arfer yn ei brynu.
"Ni fyddai cynyddu pris alcohol yn newid y diwylliant yfed ond gallai arwain at fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dwyn" Myfyriwr coleg, Abertawe
  • Dywedodd rhai bod y cynigion yn y Bil yn rhy eithafol, a defnyddiwyd Awstralia fel enghraifft o rywle na ellid gweini alcohol ar ôl 10 o’r gloch yr hwyr; tra bod awgrymiadau eraill yn cynnwys cyfyngu ar faint o alcohol y gellid ei brynu mewn diwrnod, a fyddai’n fwy effeithiol na newid y pris.
"Nid yw’r llywodraeth wedi rhoi cynnig ar unrhyw ffordd arall o fynd i’r afael â’r mater." Myfyriwr Prifysgol, Caerdydd

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

“Argymhelliad 1. Rydym yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).” Yn gyffredinol, mae’r Pwyllgor yn teimlo y byddai’r Bil yn helpu i wella ac amddiffyn iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, yn dilyn ei hymgynghoriad, ac wedi ystyried y safbwyntiau a roddwyd gan aelodau o'r gymuned ddi-gartref a'r bobl ifanc hynny a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws, maent wedi mynegi pryderon y gallai’r Bil yn ei ffurf bresennol gael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gallai wthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol. Mae’r Pwyllgor yn awgrymu “dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno”. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dweud yr hoffent weld isafbris am alcohol fel rhan o becyn ehangach o gamau a gwasanaethau cymorth i leihau dibyniaeth ar alcohol, a chodi ymwybyddiaeth o yfed cyfrifol.

Y camau nesaf

Caiff y Bil ei drafod heddiw (13 Mawrth 2018) yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yna cynhelir pleidlais i benderfynu a all fynd ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfu’r Cynulliad. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd.TV. Gallwch ddarllen Adroddiad llawn y Pwyllgor a’r Crynodeb o dystiolaeth y grwpiau ffocws ar wefan y Cynulliad. Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â’r tîm Allgymorth: TimAllgymorth@Cynulliad.Cymru