Jamborî yn y Senedd: Nodi 20 mlynedd o ddatganoli

Cyhoeddwyd 13/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/05/2019

Roedd y Senedd fel ffair ddydd Llun gŵyl y banc, 6 Mai 2019, wrth inni gynnal jamborî llawn hwyl i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

I gychwyn, cawsom orymdaith liwgar o amgylch y Bae i gyfeiliant Samba Galez; gellid clywed eu drymiau'n atseinio dros forglawdd Bae Caerdydd draw ym Mhenarth.

https://twitter.com/SambaGalez/status/1125368834964242432

Yn yr adeilad, cafodd ymwelwyr groeso gan Dewi, draig 8 troedfedd a adeiladwyd o dros 185,00 o frics LEGO®. I fyny'r grisiau, cafodd plant gyfle i ddefnyddio briciau i “greu eu Cymru nhw” ar fap anferth ar lawr y Senedd, i gwblhau darn o fosäig LEGO® y Senedd, neu i chwarae gyda'r DUPLO®.

https://twitter.com/SophieBillingh1/status/1125426753562980358

Roedd gweithdai gyda'r bitbocsiwr dwyieithog Mr Phormula, ac roedd No Fit State yn helpu ymwelwyr i ymarfer jyglo, cylchyn hwla a sgiliau syrcas eraill. Mwynhaodd yr ymwelwyr iau gael dwyno eu dwylo gydag arbrofion llysnafeddog y Science Boffins. 

I lawr y grisiau, cafodd y dorf ei swyno gan sioe ddawns syfrdanol y perfformwyr hynod boblogaidd hynny, KLA Dance.

https://twitter.com/abby69039312/status/1125354783664234496

Roedd cerddoriaeth Gymraeg yn canu drwy'r dydd, diolch i ddisgo pedlo Ynni Da, ac roedd cyfle i glywed hanes yr iaith Gymraeg mewn sioe gan y cwmni theatr addysgol Mewn Cymeriad.

I helpu i nodi ugainmlwyddiant datganoli, gofynnwyd i ymwelwyr i rannu eu syniadau ar gyfer llunio dyfodol Cymru. Ar hysbysfwrdd, gofynnwyd: Beth yw’ch gobeithion a’ch dyheadau ar gyfer eich ardal chi erbyn 2039? Cawsom gyfraniadau gan bobl o bob oed.

Roedd materion amgylcheddol yn amlwg iawn, gyda llawer o bobl yn nodi eu bod yn gobeithio gweld llai o wastraff plastig erbyn 2039. Roedd creu llwybrau beicio mwy diogel hefyd yn bwnc poblogaidd, yn ogystal â hyrwyddo ffordd iachach a mwy heini o fyw, i wella llesiant corfforol a meddyliol y genedl.

https://twitter.com/sophiehowe/status/1125413925187674112

Erbyn diwedd y dydd, roedd dros 1,350 o bobl wedi dod trwy'r drysau i ddathlu gyda ni a dysgu ychydig mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

https://twitter.com/CynulliadCymru/status/1125467799797882885

___

Ond mae mwy i ddod!

Dros fisoedd yr haf, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Bydd yr amserlen lawn yn gorffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, gyda phobl adnabyddus o fyd y celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd.

Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter neu CynulliadCenedlaetholCymru ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf.