Mis Hanes LGBT – Pwysigrwydd Modelau Rôl

Cyhoeddwyd 27/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2017

Gall cael modelau rôl LGBT gweladwy gael effaith drawsnewidiol ar greu gweithle a chymdeithas wirioneddol gynhwysol. Mae canllaw diweddaraf Stonewall, Modelau Rôl: bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru, yn cynnwys straeon ysbrydoledig gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd sy'n gweithio mewn meysydd gwahanol. Fe fyddwch yn adnabod un neu ddau ohonynt! Mae Stonewall hefyd wedi cyhoeddi LGBT voices, sef casgliad o straeon personol gan bobl LGBT sydd wedi byw drwy anghydraddoldeb a phrofiadau nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu'n aml ar y teledu, mewn llyfrau, mewn ffilmiau neu mewn ysgolion. Wrth gwrs, mae'n bwysig nodi y bydd gan grwpiau LGBT gwahanol fodelau rôl gwahanol. Mae'r Pride Power List 2016 yn cynnwys detholiad amrywiol o fodelau rôl LGBT: dynion, menywod, anneuaidd, traws, anabl, Du, Asiaidd, pobl o ffydd, pobl hŷn a phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a gyrfaoedd. Yma, mae rhai aelodau o'n rhwydwaith LHDT yn y gweithle yn egluro pam mae modelau rôl yn bwysig iddyn nhw:

"Y bobl mae gen' i lawer o barch atyn nhw yw'r bobl sy'n barod i fynd un cam ymhellach ac i roi eu pen uwchben y parapet a herio'r status quo. Ni ddylech danbrisio'r gwahaniaeth y mae modelau rôl amlwg yn ei wneud i bobl. Mae'n gwneud gwahaniaeth i bobl pan mae'n peidio â bod yn rhywbeth haniaethol. Mae llawer o syniadau ystrydebol yn dal i fod, felly mae'n bwysig cael ystod amrywiol o fodelau rôl. Rwyf am gyfrannu at greu Cymru fodern, Cymru sy'n gynrychiadol." Hannah Blythyn AC

"Mae'n bwysig cael modelau rôl amrywiol; ni all un person gynrychioli'r profiad hoyw yn ei gyfanrwydd." Rhys Morgan, y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

"Mae'n bwysig iawn bod pobl LHDT yn weladwy yn y sefydliad, bod pobl yn gweld nad yw gallu pobl i gyrraedd lefelau uwch wedi'i lesteirio oherwydd eu bod yn aelod o grŵp lleiafrifol. Mae gennym bobl ifanc sy'n dweud iddi gymryd tair blynedd iddynt ddod allan yn eu sefydliad blaenorol, a thair wythnos yma. Os ydych chi wedi cyrraedd sefyllfa lwyddiannus, os gallwch chi ysbrydoli rhywun arall, os gallwch arwain drwy esiampl, fe ddylech chi wneud hynny." Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn a chyd-Gadeirydd OUT-NAW

"Rwy'n credu bod modelau rôl yn helpu i ddangos ei bod yn iawn bod yn chi eich hun.  Maen nhw'n dangos ichi na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar bwy y gallwch fod a'r hyn y gallwch ei gyflawni.  Po fwyaf o fodelau rôl sydd yna a pho fwyaf yr amrywiaeth maen nhw'n ei chynrychioli, y mwyaf y gallwn chwalu rhwystrau a herio camsyniadau." Lisa Bowkett, Pennaeth Cyllid a chyd-Gadeirydd OUT-NAW

[gallery ids="2373,2372,1190" type="rectangular"]